Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (RhDGGCC)

Mae tîm datblygu gweithlu gofal cymdeithasol Gwynedd yn cefnogi cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer y sector.

Mae’r tîm yn gweinyddu Grant Partneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (RhDGGCC) er mwyn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i weithlu gofal cymdeithasol yr Awdurdod yn ogystal â’r Bartneriaeth Gofal Cymdeithasol ehangach yng Ngwynedd.

Mae aelodaeth Partneriaeth RhDGGCC yn cynnwys yr awdurdod lleol, y sector annibynnol a’r trydydd sector, darparwyr gofal cymdeithasol (cartrefol a phreswyl), a phartneriaid sy’n cydweithio i gefnogi’r sector i ddatblygu gweithlu sydd â’r sgiliau a’r cymwysterau priodol i fodloni gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru. Cynigir hyfforddiant hefyd i ofalwyr di-dâl (perthnasau neu ffrindiau sy'n gofalu am bobl gartref) a chynorthwywyr personol (sector taliadau uniongyrchol).

Rhoddir ffocws i feysydd blaenoriaeth allweddol a gefnogir fel y nodir yng Nghylchlythyr Blynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gallwch gymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio ein rhaglen hyfforddi drwy ddychwelyd eich Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi yn flynyddol

Yn ystod y flwyddyn efallai y bydd angen diwygio’r cynllun o ganlyniad i newidiadau i ddeddfwriaeth, polisïau neu flaenoriaethau gwasanaeth, felly o bryd i’w gilydd byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth newydd ac ychwanegol yn ymwneud â chyrsiau.

Rydym yn awyddus i glywed gennych am unrhyw anghenion hyfforddi a datblygu ychwanegol sydd gennych neu sylwadau am y ddarpariaeth

I gael mynediad i hyfforddiant neu adnoddau digidol cysylltwch caishyfforddiant@gwynedd.llyw.cymru

 

CYNLLUN HYFFORDDI GWEITHLU GOFAL CYMDEITHASOL -  GWYNEDD  - SOCIAL CARE WORKFORCE TRAINING PLAN  2022-2023
TEITL CWRS  SESIYNAU -  CYFRWNG 
A1 SYMUD A THRIN     ADNODD DIGIDOL 
ANWYTHO E.DDYSGU    ADNODD DIGIDOL 
ASSIST OEDOLION  1 MEWN YSTAFELL 
ASSIST PLANT  1 MEWN YSTAFELL
AWTISTIAETH YMWYBYDDIAETH   5 MEWN YSTAFELL 
BTEC DAPARU OFFER YN Y GYMUNED  2 MEWN YSTAFELL 
BYDDARDOD  5 PLATFFORM ZOOM 
CCIM CYMORTH CYNTAF IECHYD MEDDWL 3 MEWN YSTAFELL 
CLEFYD SIWGR  5 PLATFFORM ZOOM 
CYMHELLIANT A MENTORA   1 MEWN YSTAFELL 
CYMORTH CYNTAF BRYS YN Y GWEITHLU  7 MEWN YSTAFELL
DEMENTIA ARBENNIGOL   4 IW CADARNHAU 
DIOGELU  6 PLATFFORM ZOOM 
DIOGELWCH BWYD LEFEL 3  1 MEWN YSTAFELL 
EGWYDDORION A GWERTHOEDD 3 PLATFFORM ZOOM 
EPILEPSI  5 PLATFFORM ZOOM 
GALLUOGI   3 MEWN YSTAFELL 
GOFAL DIWEDD OES 5 PLATFFORM ZOOM 
GOFAL PERSONOL  4 MEWN YSTAFELL 
GORUCHWYLIAETH I REOLWYR GOFAL  2 MEWN YSTAFELL
I.ACT 3 PLATFFORM ZOOM 
I.ACT RHEOLWYR  1 PLATFFORM ZOOM 
LLESIANT A MAETH  2 MEWN YSTAFELL 
MAC/DOLS I REOLWYR COFRESTREDIG  2 PLATFFORM ZOOM 
MAKATON OEDOLION  1 MEWN YSTAFELL 
MAKATON PLANT  1 MEWN YSTAFELL
MOTOR NEURONE M.N.D 5 PLATFFORM ZOOM 
PARKINSONS 5 PLATFFORM ZOOM 
PASBORT HYFFORDDI YR HYFFORDDWYR  2 MEWN YSTAFELL 
PBS CYFLWYNIAD 2 MEWN YSTAFELL 
STRÔC  5 PLATFFORM ZOOM 
SYMUD A THRIN (pasbort)   3 MEWN YSTAFELL 
YMWYBYDDIAETH DEMENTIA  8 MEWN YSTAFELL 
YMWYBYDDIAETH IECHYD MEDDWL  3 MEWN YSTAFELL