Mae’r cynnig hwn ar gael ar gyfer pob digwyddiad a wnaeth gais am y Gronfa cymorth digwyddiadau SPF, Gwynedd neu sydd wedi mynychu cyfarfod Grŵp Ymgynghori Diogelwch Gwynedd. Mae'r cynnig ar gyfer un person fesul sefydliad/digwyddiad.
Sylwch mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar y cwrs, a bydd mynediad ar sail y cyntaf i'r felin. Os bydd galw mawr, efallai y byddwn yn cynnig cwrs ychwanegol ar ddyddiad hwyrach.
Bydd y cwrs yn ymdrin â’r meysydd canlynol:
- Cyflwyniad i ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch y DU yn y diwydiant digwyddiadau
- Cyfrifoldeb am ddiogelwch mewn digwyddiadau – Dealltwriaeth o’r termau perygl, risg, tebygolrwydd, a chanlyniad
- Adnabod peryglon ac ysgrifennu asesiadau risg
- Systemau gwaith diogel mewn digwyddiadau
- Arwyddion diogelwch ac Offer Diogelu Personol mewn digwyddiadau
- Rhoi gwybod am ddigwyddiadau a damweiniau
- Gweithdrefnau Argyfwng a Phlant Coll
- Bygythiadau Diogelwch a Therfysgaeth
I gofrestru ar gyfer y cwrs, cwblhewch y ffurflen ar-lein gyda'ch manylion.
Cofrestru Cwrs IOSH
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen gofrestru, byddwn yn cysylltu â chi ymhellach. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn dolen Zoom ar gyfer y cwrs a chopi o'r llyfr gwaith y cwrs o flaen o law.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni.
digwyddiadau@gwynedd.llyw.cymru