Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Fe gyflwynwyd Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn 2013 drwy fabwysiadu Deddf Sgorio Hylendid Bwyd. Mae’r ddeddf yn gorfodi busnes bwyd i arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man priodol ac i gynghori unrhyw gwsmer o’u sgôr os oes ymholiad.

Mae’r cynllun yn cael ei rhedeg gan Cyngor Gwynedd ac mae’n berthnasol i’r canlynol:

  • Tai bwyta
  • Tai tafarn
  • Caffis
  • Siopau prydau parod
  • Gwestai
  • Archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Fe fydd pob busnes yn derbyn eu sgôr hylendid bwyd yn dilyn archwiliad gan un o swyddogion diogelwch bwyd Cyngor Gwynedd.  Mae mwy o wybodaeth i’w gael ar wefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd.


Beth yn union sydd yn digwydd?

Yn ystod yr archwiliad fe fydd y swyddog yn canolbwyntio ar:

  • Ymarferion hylendid wrth ymdrin â bwyd
  • Cyflwr yr adeilad
  • Sut mae’r busnes yn cael ei reoli

Bydd busnes yn derbyn sgôr hylendid bwyd, sydd yn amrywio o ‘0’ – Angen gwella ar frys  i’r sgôr uchaf ‘5’ – Da iawn, yn ddibynnol ar faint mae’r busnes yn cydymffurfio.


Darganfod Sgôr Hylendid Bwyd

Bydd sgôr hylendid pob sefydliad yn cael ei gyhoeddi ar wefan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd.   

Chwilio am sgôr hylendid bwyd

 

Deddfau perthnasol

Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Os yw busnes yn ystyried fod y sgôr a roddwyd yn annheg mae angen iddynt gysylltu â’r swyddog a wnaeth yr archwiliad. 

Os nad ydynt yn gallu datrys y mater gall fusnes apelio gan ddefnyddio’r ffurflen apêl

Ffurflen Apêl

Rhaid cyflwyno apêl cyn pen 21 diwrnod o ddyddiad derbyn yr adroddiad hylendid bwyd.  Dylid anfon y ffurflen apêl wedi ei llenwi i Reolwr Gwarchod y Cyhoedd (Bwyd). Bydd yr apêl yn cael ei hystyried gan swyddog o’r awdurdod oedd ddim yn rhan o’r asesiad gwreiddiol i’r sgôr hylendid bwyd y gwneir yr apêl amdano. Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu ar yr apêl a rhoi gwybod i’r busnes beth oedd y canlyniad cyn pen 21 diwrnod o dderbyn yr apêl.  Yn ystod cyfnod y broses apêl ni ddylid arddangos unrhyw sticer ac ni ddylid cyfeirio ato mewn unrhyw hysbysebu, cynnwys gwefan ac ati.

Mae gan fusnesau hefyd ‘Hawl i Ymateb’.

Mae’r hawl i ymateb yn caniatáu i weithredwyr busnesau bwyd gynnig ymateb i’r sgôr a roddwyd i’r busnes.  Rhaid gwneud sylwadau yn ysgrifenedig i’r Cyngor gan ddefnyddio’r ffurflen Hawl i Ymateb.

Gallwn ddarparu copïau papur o’r ffurflen hon os derbynnir cais amdanynt.  

Dylid anfon y ffurflen wedi ei llenwi i Reolwr Gwarchod y Cyhoedd (Bwyd). Bydd copi yn cael ei anfon ymlaen i’r Asiantaeth Safonau Bwyd a all gyhoeddi’r sylwadau ar wefan yr Asiantaeth, ynghyd â’r sgôr.

  • E-bost - bwyd@gwynedd.llyw.cymru
  • Ffôn - 01766 771 000
  • Cyfeiriad - Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (Bwyd), Swyddfa Ardal Meirionnydd, Cae penarlârg, Dolgellau, Gwynedd,LL40 2YB

Wedi i’r busnes ddelio gyda’r holl faterion diffyg cydymffurfiaeth a gofynion cyfreithiol a godwyd yn yr adroddiad archwilio, gallent ymgeisio am ymweliad ail sgorio.  Gellir gwneud cais am archwiliad pellach ac asesiad o’r safonau hylendid bwyd yn y sefydliad ar unrhyw adeg i ddibenion ystyried newid y sgôr hylendid bwyd, yn amodol a chwrdd â’r amodau a ganlyn:

  • bod unrhyw apêl yn erbyn y sgôr hylendid bwyd presennol wedi ei benderfynu;
  • bod y gweithredwr wedi hysbysu’r awdurdod bwyd am y gwelliannau wnaed i safonau hylendid y sefydliad;
  • bod yr awdurdod bwyd yn ei hystyried hi’n rhesymol i archwilio ac asesu’r sefydliad ymhellach oherwydd y gwelliannau y dywedwyd a wnaed;
  • bod y sticer sgôr hylendid bwyd presennol yn cael ei arddangos yn y sefydliad yn unol â gofynion adran 7 o Ddeddf Sgôr Hylendid Bwyd (Cymru) 2013;
  • fod y busnes yn cytuno i sicrhau fod awdurdod bwyd yn cael mynediad i gynnal archwiliad o’r sefydliad i ddibenion ail-sgorio.
  • fod y busnes wedi talu costau rhesymol yr ail-sgorio, fel y penderfynwyd gan yr awdurdod bwyd yn unol ag adran 13 o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.

Sut mae mynd ati i drefnu ail-ymweliad?

Bydd cost o £210 am ymweliad ail-sgorio a rhaid talu’r ffi wedi i'r cais gael ei dderbyn. Bydd y tâl yn cael ei gyfrif ar sail amcangyfrifiad o amser y swyddog yn cynnal yr ymweliad ail-sgorio; yn cynnwys amser paratoi, amser teithio, yr amser a dreulir yn ysgrifennu’r adroddiad ar ôl yr archwiliad a chostau teithio. 

Rhaid gwneud cais am ymweliad ail-sgorio yn ysgrifenedig i’r Cyngor gan ddefnyddio’r ffurflen gais sydd ar waelod y dudalen. Gallwn ddarparu copïau papur o’r ffurflen hon os derbynnir cais amdanynt.  

 

Pryd fydd ail-ymweliad yn digwydd?

Cynhelir yr ymweliad ail-sgorio cyn pen tri mis o dderbyn y cais gan y busnes.  Ni fydd y busnes yn  cael gwybod ymlaen llaw union ddyddiad ac amser yr ymweliad. Dalier sylw y bydd yr Awdurdod Bwyd efallai angen tystiolaeth gefnogol fod y diffygion cydymffurfio wedi eu cywiro, cyn cytuno i gynnal ymweliad ail-sgorio. 

Mae angen i’r busnes barhau i arddangos eich sticer sgôr presennol hyd nes eu bod yn cael gwybod am ganlyniad yr ymweliad ail-sgorio fydd cyn pen 14 diwrnod o’r ail-archwiliad.