Rheolaeth Hylendid Bwyd
HACCP
Mae’n ofyn cyfreithiol ar y rhan fwyaf o fusnesau i fabwysiadu a chynnal system rheolaeth diogelwch bwyd sy’n seiliedig ar egwyddorion HACCP.
Gall systemau diogelwch bwyd amrywio mewn cynlluniad ac mae maint, math a natur y busnes bwyd yn pennu pa system sydd yn fwyaf addas.
Mae rhan fwyaf o fusnesau Gwynedd megis caffis a thai bwyta yn cael budd o ddefnyddio pecyn yr Asiantaeth Safonau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell ‘Safer Food Better Business’ (SFBB) ond i gynhyrchwyr ac i arlwywyr mawr mae system HACCP traddodiadol yn fwy addas, mae gwybodaeth bellach ar waelod y dudalen.
Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB)
Fe ddatblygwyd y pecyn SFBB gas yr Asiantaeth Safonau Bwyd i gynorthwyo busnesau bwyd i gydymffurfio gyda’r gofynion i fabwysiadu system rheoli bwyd wedi ei ddogfennu yn dilyn egwyddorion HACCP.
Isod mae pecynnau i’w dilyn a all fod o Gymorth i chi fel busnes. Mae pob pecyn yn dilyn yr un format gyda dwy ran ‘Dulliau Diogel’ a ‘Dyddiadur’
Mae’r Gweithredwr Busnes Bwyd neu'r person sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd yn y busnes yn cwblhau'r ‘Dulliau Diogel’ sydd yn cynnwys Croeshaolgi, Glanhau, Oeri, Coginio a Rheolaeth.
I gwblhau’r dyddiadur mae angen nodi unrhyw ddigwyddiad anarferol megis rhywbeth sydd yn mynd o’i le.
Gwefannau Defnyddiol
www.rsph.org.uk
https://www.food.gov.uk/cy/canllawiau-busnes/bwyd-mwy-diogel-busnes-gwell-ar-gyfer-arlwywyr
https://www.food.gov.uk/cy/canllawiau-defnyddiwr/alergedd-ac-anoddefiad-bwyd
Asiantaeth Safonau Bwyd: Hyfforddinat alergedd ac anoddefiad bwyd