Gwneud cais am uned / tir diwydiannol
I wneud cais i rentu uned neu lain o dir diwydiannol gan y Cyngor byddwch angen:
- llawrlwytho'r Ffurflen Gais am Uned neu Lain o Dir a llenwi’r ffurflen mor fanwl â phosibl
- lawrlwytho'r Ffurflen Gais ar gyfer Uned Glynllifon
- cysylltu gydag Adran Cynllunio, Cyngor Gwynedd neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (yn ddibynnol ar leoliad yr uned) er mwyn sicrhau bod defnydd bwriadedig yr uned / tir yn cydymffurfio gyda'r caniatâd cynllunio perthnasol
- cyflwyno Cynllun Busnes - os nad oes gennych Gynllun Busnes, mae templed ar gael
- sicrhau, cyn postio'r ffurflen, eich bod wedi defnyddio’r rhestr wirio ar dudalen 7 o’r ffurflen er mwyn sicrhau eich bod wedi cynnwys yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol
Os ydych angen cymorth i lenwi’r ffurflen gais, cysylltwch gyda:
Swyddog Asedau Busnes
Ffôn: 01286 679 272
E-bost: stadau@gwynedd.llyw.cymru
Noder: Nid oes unrhyw orfodaeth ar Gyngor Gwynedd i ganiatáu tenantiaeth. Ystyrir pob achos yn unol â’i haeddiant ac yn unol â chanllawiau polisi. Nid yw’n ofynnol i’r Cyngor roi rhesymau dros unrhyw benderfyniadau.
Cymorth gyda'ch busnes
Mae gwasanaeth cefnogi busnes Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth cyfrinachol, diduedd, rhad ac am ddim i fusnesau yng Nghymru ynghylch nawdd, grantiau, cefnogaeth a gwybodaeth busnes. Gallant hefyd eich cynorthwyo i greu cynllun busnes.