Casglu o ddrws i ddrws
Er mwyn mynd o ddrws i ddrws yn casglu arian at elusen yn Lloegr a Chymru, mae gofyn i chi gael trwydded gan eich cyngor lleol.
Mae gan rai sefydliadau - elusennau mawr - orchmynion eithrio gan y Swyddfa Gartref sy’n golygu nad oes arnynt angen trwydded. Dylai’r sefydliadau hyn roi gwybod i’r awdurdod lleol yr un fath.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i’r cais fod ar ffurf a ragnodir gan yr awdurdod lleol.
Mae’n rhaid i chi fod yn unigolyn cymwys a phriodol.
Proses gwerthuso’r cais
Neilltuir caniatâd casglu o ddrws i ddrws am wythnos. Er mwyn ceisio osgoi sefyllfa pan fo dau neu fwy o gasgliadau'n digwydd ar yr un pryd yn yr un lle, mae’r Cyngor yn cadw cofrestr casgliadau. Dylai darpar ymgeiswyr gysylltu â’r Cyngor ynghylch pryd a lle yng Ngwynedd maent yn bwriadu casglu o ddrws i ddrws. Os yw’r dyddiad penodol ar gael, caiff y dyddiad ei gadw dros dro i’r sawl sy’n gwneud cais amdano, a bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Gellir ymgeisio hyd at flwyddyn ymlaen llaw, ond ddim llai na mis cyn y dyddiad. Ond mewn achosion arbennig fel trychineb, gellir rhoi rhybudd o lai na mis.
Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth, i ddweud wrthym am gasgliad neu am ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.
Deddfau perthnasol
Deddf Casgliadau Drws i Ddrws 1939
A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.
Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Mae gennych hawl i apelio at Weinidog Swyddfa’r Cabinet. Rhaid cofrestru apeliadau o fewn 14 diwrnod i’r gwrthodiad.
Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Mae gennych hawl i apelio at Weinidog Swyddfa’r Cabinet. Rhaid cofrestru apeliadau o fewn 14 diwrnod o’r penderfyniad.
Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).