Trwydded eiddo
I ddarparu lluniaeth yn hwyr y nos, adloniant rheoledig neu i werthu alcohol, mae arnoch angen trwydded oddi wrth yr awdurdod lleol os ydych yng Nghymru a Lloegr.
Meini prawf cymhwysedd
Gall unrhyw un o’r canlynol wneud cais am drwydded eiddo:
- unrhyw un sydd fel arfer yn cynnal busnes yn yr eiddo sy’n berthnasol i’r cais
- clwb cydnabyddedig
- elusen
- corff gwasanaeth iechyd
- person sydd wedi ei gofrestru dan Ddeddf Gofal Safonol 2000 mewn perthynas ag ysbyty annibynnol
- prif swyddog heddlu yng Nghymru a Lloegr
- unrhyw un sy'n cyflawni swyddogaeth statudol dan uchelfraint Ei Mawrhydi
- person o sefydliad addysgol
- unrhyw berson arall a ganiateir.
Ni ddylai ymgeiswyr fod dan 18 oed.
Proses gwerthuso’r cais
Rhaid gyrru’r ceisiadau i awdurdod trwyddedu dros yr ardal y lleolir yr eiddo.
Rhaid i geisiadau fod mewn fformat penodol ynghyd ag unrhyw ffi ofynnol, rhaglen weithredu, cynllun o’r safle a ffurflen ganiatâd gan oruchwyliwr y safle (ar gyfer ceisiadau lle bydd gwerthiant alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy).
Bydd rhaglen weithredu’n cynnwys manylion am:
- y gweithgaredd trwyddedadwy
- yr amseroedd pan fo'r gweithgareddau'n digwydd
- unrhyw amseroedd eraill y bydd yr adeilad ar agor i’r cyhoedd
- yn achos ymgeiswyr sy’n dymuno cael trwydded gyfyngedig, y cyfnod y mae angen y drwydded
- gwybodaeth ynglŷn â goruchwyliwr y safle
- a fydd unrhyw alcohol a gaiff ei werthu'n cael ei yfed ar y safle ynteu y tu allan iddo, neu'r ddau
- y camau arfaethedig i’w cymryd i hyrwyddo amcanion y drwydded
- unrhyw wybodaeth arall.
Gall y bydd angen i’r ymgeiswyr hysbysu eu cais ac i roi hysbysiad o’u cais i'r awdurdodau perthnasol yn y cyngor lleol, prif swyddog yr heddlu a’r awdurdod tân ac achub.
Os na dderbynnir gwrthwynebiadau, rhaid i’r awdurdod trwyddedu ganiatáu'r cais, a all fod yn ddarostyngedig i amodau. Rhaid cynnal gwrandawiad os gwneir unrhyw gynrychioliad mewn perthynas â’r cais. Os cynhelir y gwrandawiad, gellir caniatáu’r drwydded neu ei chaniatáu yn ddarostyngedig i amodau ychwanegol, gall gweithgareddau trwyddedadwy a restrwyd yn y cais gael eu gwahardd neu gellir gwrthod y cais.
Bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad o’i benderfyniad i’r ymgeisydd, unrhyw berson a wnaeth gynrychioliad perthnasol (h.y. cynrychioliadau nad ystyrid yn ddisylwedd neu’n drallodus) a phrif swyddog yr heddlu.
Gellir gwneud cais hefyd i newid neu drosglwyddo trwydded. Gall y bydd angen cynnal gwrandawiad os gwneir cynrychioliad neu os na chwrddwyd ag amodau perthnasol i drosglwyddiad.
Ceisiadau eraill y gellir eu gwneud yw ceisiadau am hysbysiad awdurdod dros dro yn dilyn marwolaeth, analluogrwydd neu fethdaliad daliwr trwydded neu geisiadau adolygu.
Gwneud cais
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais a’i hanfon wedi’i chwblhau at unrhyw un o'r cyfeiriadau isod:
- Uned Trwyddedu, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
- Uned Trwyddedu, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Swyddfa Ardal Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA
- Uned Trwyddedu, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Swyddfa Ardal Meirionnydd, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2YB
Neu gallwch adael y ffurflen gais yn unrhyw un o Siopau Gwynedd:
- Siop Gwynedd Pwllheli
- Siop Gwynedd Caernarfon
- Siop Gwynedd Dolgellau
Ffioedd
Cofrestr gyhoeddus
Gweld cofrestr o drwyddedau eiddo yng Ngwynedd
Deddfau perthnasol
Deddf Trwyddedu 2003 (cyswllt allanol – Saesneg yn unig)
Crynodeb o’r ddeddf (cyswllt allanol – Saesneg yn unig)
A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae'n ofynnol i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, byddwch cysylltwch â hwy.
Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Os yw’r cais am drwydded yn cael ei wrthod gall y ymgeisydd apelio. Gellir apelio yn y Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod i ddyddiad y llythyr yn eich hysbysu o’r penderfyniad.
Camau gan bartïon neu unigolion perthnasol
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Os gwneir cais gan brif swyddog yr heddlu, fel y sonnir isod, a chymerir camau dros dro gan yr awdurdod trwyddedu, gallwch wneud cynrychioliadau. Rhaid cynnal gwrandawiad o fewn 48 awr i dderbyn eich cynrychioliadau.
Gall deiliad trwydded apelio'n erbyn unrhyw amodau a roddwyd ar drwydded, penderfyniad i wrthod cais amrywio, penderfyniad i wrthod cais trosglwyddo neu benderfyniad i eithrio gweithgarwch neu berson fel goruchwyliwr yr eiddo.
Gellir apelio yn y Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod i dderbyn rhybudd o’r penderfyniad.
Cwyn gan ddefnyddwyr
Gall unrhyw barti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu adolygu trwydded eiddo. Cynhelir gwrandawiad gan yr awdurdod trwyddedu.
Gellir apelio yn y Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod i dderbyn rhybudd o’r penderfyniad.
Camau eraill
Gall y prif swyddog heddlu yn ardal yr eiddo wneud cais i’r awdurdod trwyddedu adolygu’r drwydded os oes trwydded i werthu alcohol o fewn yr eiddo a bod uwch swyddog wedi rhoi tystysgrif ei fod o’r farn bod yr eiddo yn gysylltiedig naill ai â throsedd difrifol neu anhrefn difrifol neu’r ddau. Cynhelir gwrandawiad, a chaiff deilydd y drwydded a phartïon eraill â diddordeb gyflwyno sylwadau.
Gall prif swyddog yr heddlu hysbysu’r awdurdod trwyddedu os yw’n credu y gallai trosglwyddo trwydded i rywun arall, drwy gais amrywio trwydded, danseilio nodau atal troseddu. Rhaid cyflwyno hysbysiad o’r fath o fewn 14 diwrnod o dderbyn hysbysiad am y cais.
Gall parti â diddordeb neu gorff cyfrifol gyflwyno sylwadau ynghylch cais am drwydded neu ofyn i’r corff trwyddedu adolygu trwydded.
Gall parti â diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu adolygu trwydded yr eiddo. Bydd yr awdurdod trwyddedu yn cynnal gwrandawiad.
Gall prif swyddog yr heddlu gyflwyno cynrychioliadau i’r awdurdod trwyddedu yn gofyn am adolygu’r drwydded os oes gan yr eiddo drwydded gwerthu alcohol a bod uwch swyddog heddlu wedi rhoi tystysgrif ei fod o’r farn bod yr eiddo yn gysylltiedig naill ai â throsedd difrifol neu anhrefn difrifol neu’r ddau.
Gall parti â diddordeb neu awdurdod perthnasol a wnaeth gynrychioliadau perthnasol apelio yn erbyn rhoi trwydded neu yn erbyn unrhyw benderfyniadau ynghylch amodau, amrywio’r drwydded, gweithgaredd trwyddedadwy neu oruchwyliwr yr eiddo.
Rhaid cyflwyno apêl yn y Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod i ddyddiad y llythyr yn eich hysbysu o’r penderfyniad.
Cymdeithasau masnach
Association of Licensed Multiple Retailers (ALMR)
Broadcasting, Entertainment, Cinematography and Theatre Union (BECTU)
Federation of Licensed Victuallers Associations (FLVA)
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01766 771000.