Trwyddedau Tân Gwyllt
Ni chaniateir cadw a gwerthu tân gwyllt heb fod gennych drwydded.
Mae Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd yn trwyddedu unigolion a chwmniau sydd yn dymuno cadw llai na 2000kg (pwysau net) o ffrwydron (hyn yn cynnwys tân gwyllt a chetris).
Mae 4 cyfnod mewn blwyddyn ble caniateir gwerthu tân gwyllt:
- 15 Hydref - 10 Tachwedd
- 26 Rhagfyr - 31 Rhagfyr
- Ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn newydd Tseiniaidd a thri diwrnod cyn hynny
- Ar ddiwrnod Diwalli a thri diwrnod cyn hynny
Os ydych yn bwriadu gwerthu tu allan i’r cyfnodau yma bydd angen gwneud cais am drwydded i werthu drwy’r flwyddyn. Mae hyn yn ychwanegol i'r drwydded storio tân gwyllt ac mae'r ffi hwnnw'n £500.
Ni chaniateir gwerthu rhai mathau o dân gwyllt i’r cyhoedd.
Gwybodaeth bellach
Ffurflen Gais