Anifeiliaid perfformio

Os ydych yn arddangos, yn defnyddio neu’n hyfforddi anifeiliaid perfformio yn Lloegr, Cymru neu’r Alban, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol.

Rhaid i geisiadau gynnwys manylion am yr anifeiliaid a'r perfformiadau y byddant yn cymryd rhan ynddynt. Mae'n bosibl y bydd ffi yn daladwy.

Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

 

Ffioedd

Trwyddedu Eiddo Anifeiliaid 2024-2025

 

Deddfau perthnasol
Deddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).

Cwynion eraill
Gall heddwas neu swyddog awdurdod lleol gwyno wrth y Llys Ynadon lleol os ydynt yn teimlo bod anifeiliaid wedi dioddef creulondeb.

Cymdeithasau masnach
The International Marine Animal Trainers' Association