Sefydliad lletya anifeiliaid

Er mwyn rhedeg cenel cŵn neu gathod, mae’n rhaid cael trwydded gan yr awdurdod lleol. Bydd nifer y cŵn a’r cathod y gellir eu cartrefu wedi ei nodi ar y drwydded, ynghyd ag unrhyw amodau penodol eraill. Gweld proses lletya anifeiliaid Cyngor Gwynedd.


Amodau trwydded a chanllawiau


Meini prawf cymhwysedd
Pan gyflwynir y cais, ni ddylai’r ymgeisydd fod wedi ei wahardd rhag unrhyw un o’r canlynol:

  • cadw busnes cartrefu anifeiliaid
  • cadw siop anifeiliaid anwes yn unol â Deddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • cadw anifeiliaid yn unol â Deddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygiedig) 1954
  • bod yn berchen, cadw, ymwneud â chadw, neu fod â hawl i reoli neu ddylanwadu ar gadw anifeiliaid, masnachu anifeiliaid, neu gario neu fod yn rhan o gario anifeiliaid yn unol Deddf Lles Anifeiliaid 2006
  • bod yn berchen, cadw, delio gyda neu gario anifeiliaid yn unol â Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006.

Proses gwerthuso’r cais
Bydd ffioedd yn daladwy am y ceisiadau ac mae'n bosibl y bydd amodau ynghlwm wrthynt.

Caiff y meini prawf canlynol eu cadw mewn cof wrth ystyried y cais:

  • bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw dan amgylchiadau addas bob amser. Mae amgylchiadau addas yn cynnwys adeiladwaith a maint yr adeilad, nifer yr anifeiliaid a gedwir ynddo, cyfleusterau ymarfer ar gyfer yr anifeiliaid, glendid a thymheredd, a darpariaethau goleuo ac awyru
  • bod bwyd a diod addas a deunydd gwely wedi ei ddarparu a bod yr anifeiliaid yn cael ymarfer ac yn derbyn sylw yn rheolaidd
  • bod camau yn cael eu cymryd i atal a rheoli haint rhag lledu ymhlith yr anifeiliaid a bod cyfleusterau cadw ar wahân ar gael
  • bod yr anifeiliaid wedi eu diogelu'n ddigonol rhag achosion o dân neu argyfyngau eraill
  • bod cofrestr yn cael ei chadw. Dylai'r gofrestr gynnwys disgrifiad o'r holl anifeiliaid a dderbynnir, y dyddiad pan fyddant yn cyrraedd ac yn ymadael ac enw a chyfeiriad y perchennog. Dylai'r gofrestr fod ar gael i'w archwilio ar unrhyw adeg gan swyddog yr awdurdod lleol, milfeddyg neu ymarferydd.

Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

 

Ffioedd

Trwyddedu Eiddo Anifeiliaid 2024 - 2025

Deddfau perthnasol
Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.  Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo apelio yn y Llys Ynadon lleol.

Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.  Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy’n dymuno apelio'n erbyn amod sydd ynghlwm wrth ei drwydded apelio yn y Llys Ynadon lleol.

Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).

Cymdeithasau masnach
Pet Care Trust (PCT)
Royal College of Veterinary Surgeons

 

Cysylltu â ni

  • 01766 771 000
  • trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru
  • Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu, Gwarchod y Cyhoedd, Swyddfa Ardal Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA