Sefydliad marchogaeth

Er mwyn rhedeg busnes marchogaeth (lle caiff ceffylau neu ferlod eu llogi i’w marchogaeth neu eu defnyddio ar gyfer hyfforddi marchogion) yn Lloegr, Cymru neu'r Alban, mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol.

Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed. Yn Lloegr a Chymru ni chaniateir iddynt fod wedi eu hatal rhag:

  • cadw busnes marchogaeth
  • cadw siop anifeiliaid anwes yn unol â Deddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • bod yng ngofal anifeiliaid yn unol â Deddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygiedig) 1954
  • cadw busnesau llety ar gyfer anifeiliaid yn unol â Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
  • cadw neu fod yn berchen ar anifeiliaid, bod mewn sefyllfa i ddylanwadu ar y modd y caiff anifeiliaid eu cadw, masnachu anifeiliaid neu gludo neu fod yn ymwneud â chludo anifeiliaid yn unol â Deddf Lles Anifeiliaid 2006
  • bod yn berchen, cadw, gludo neu ddelio mewn anifeiliaid yn unol â Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006.

Bydd angen talu unrhyw ffi berthnasol a chydymffurfio ag unrhyw amodau a fydd ynghlwm wrth y drwydded.

Proses gwerthuso’r cais
Cyn penderfynu ynghylch cais, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol yn gyntaf roi sylw i adroddiad gan filfeddyg neu ymarferydd milfeddygol, yn nodi'n fanwl a yw’r adeiladau yn addas ar gyfer busnes marchogaeth ac yn nodi cyflwr yr adeiladau ac unrhyw geffylau ar y safle.

Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn ystyried a yw'r ymgeisydd yn addas ac yn gymwys i gael trwydded. Rhaid iddynt gael eu bodloni ynghylch y canlynol:

  • y rhoddir ystyriaeth i gyflwr y ceffylau a’u bod yn cael eu cadw mewn iechyd derbyniol gyda’u cyrff yn gymwys i’r tasgau, ac os yw’r ceffyl i’w farchogaeth neu ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddi marchogion, ei fod yn addas i’r diben hwnnw
  • y caiff traed yr anifeiliaid eu trin yn y modd cywir a bod y pedolau yn cael eu ffitio’n gywir a’u cadw mewn cyflwr da
  • bod llety addas ar gyfer y ceffylau
  • bod porfa addas, cysgod a dŵr ar gyfer ceffylau a gedwir ar y borfa ac y caiff porthiant ychwanegol ei ddarparu os / pan fydd ei angen
  • y darperir porthiant addas, dŵr a gwely addas ar gyfer y ceffylau, y cânt eu gwastrodi yn rheolaidd, eu hymarfer yn rheolaidd ac y cedwir llygad arnynt yn gyson
  • y cymerir camau i leihau'r perygl o ledaenu clefydau heintus, y darperir ac y cedwir cyfarpar cymorth cyntaf a meddyginiaethau milfeddygol
  • bod trefniadau addas wedi eu sefydlu er mwyn diogelu a symud y ceffylau mewn tân, ac fel rhan o hyn y bydd enw, cyfeiriad a rhif ffôn deiliad y drwydded i’w gweld y tu allan i'r adeilad a'r cyfarwyddiadau i'w dilyn pan fo tân wedi eu harddangos yno hefyd
  • bod cyfleusterau storio porthiant, gwellt, cyfarpar stabl a chyfrwyaeth ar gael.

Yn ogystal ag unrhyw amodau eraill, mae’n ofynnol i drwydded busnes marchogaeth gydymffurfio â’r amodau canlynol:

  • na fydd unrhyw geffyl a archwiliwyd gan swyddog awdurdodedig ac y penderfynwyd ei fod angen sylw milfeddygol yn dychwelyd i weithio hyd nes bydd deiliad y drwydded wedi derbyn tystysgrif milfeddyg yn cadarnhau bod y ceffyl yn addas i weithio
  • na chaiff ceffyl ei logi allan na’i ddefnyddio ar gyfer hyfforddi heb i berson cyfrifol 16 mlwydd oed neu hŷn fod yn ei arolygu, oni bai fod deiliad y drwydded yn fodlon nad yw’r ceffyl angen arolygaeth
  • na chaiff y busnes ei adael yng ngofal person sydd dan 16 mlwydd oed
  • bod gan ddeiliad y drwydded yswiriant indemniad
  • bod deiliad y drwydded yn cadw cofrestr o'r holl geffylau yn ei feddiant sydd dair blwydd oed neu’n iau a bod y gofrestr ar gael i'w archwilio ar unrhyw adeg resymol.

Gwneud cais
Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

 

Ffioedd

Trwyddedu Eiddo Anifeiliaid 2024 - 2025



Deddfau perthnasol
Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.  Gall ymgeisydd y gwrthodir ei gais apelio yn y Llys Ynadon lleol.

Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.  Gall deiliad trwydded sy’n dymuno apelio'n erbyn amod wneud hynny yn y Llys Ynadon lleol.

Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny'n llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).

Cymdeithasau masnach
Association of British Riding Schools (ABRS)
British Dressage
British Equestrian Federation (BEF)
British Equestrian Trade Association (BETA)