Siop anifeiliaid anwes
Er mwyn rhedeg busnes gwerthu anifeiliaid anwes mae arnoch angen trwydded gan yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys pob gwerthu masnachol o anifeiliaid anwes, gan gynnwys siopau anifeiliaid anwes a busnesau sy’n gwerthu anifeiliaid dros y we.
Meini prawf cymhwysedd
Ni chaiff ymgeiswyr am drwydded siop anifeiliaid anwes fod wedi eu gwahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes.
Bydd angen talu ffi, a benderfynir gan yr awdurdod lleol, wrth wneud y cais.
Proses gwerthuso’r cais
Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canlynol wrth ystyried cais am drwydded siop anifeiliaid anwes:
- dylai’r anifeiliaid gael eu cadw mewn lle addas, o ran tymheredd, maint, golau, aer a glanweithdra er enghraifft
- dylid darparu digon o fwyd a diod i’r anifeiliaid a bydd rhywun yn mynd i’w gweld yn ddigon aml
- ni ddylid gwerthu mamaliaid yn rhy ifanc
- dylid gweithredu er mwyn atal haint rhag lledu ymhlith yr anifeiliaid
- dylid gwneud digon i warchod yr anifeiliaid rhag tân ac argyfyngau eraill.
Gellir rhoi amodau ar drwydded er mwyn sicrhau y cedwir at y pwyntiau uchod.
Gwneud cais
Proses gwneud cais Gwynedd
Rhaid ymgynghori gyda Gwasanaeth Cynllunio Gwynedd i weld os oes angen caniatâd cynllunio cyn gwneud cais am drwydded
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â ni:
Ffioedd
Trwyddedu Eiddo Anifeiliaid 2024-2025
Deddfwriaeth perthnasol
A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.
Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Os gwrthodir cais gall yr ymgeisydd apelio at yr Ysgrifennydd Gwladol.
Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Cymdeithasau masnach
Pet Care Trust (PCT)
Cofrestr gyhoeddus
Gweld cofrestr gyhoeddus o drwyddedau siopau anifeiliaid anwes