Arbed cerbydau
Os ydych yn weithredwr arbed cerbydau, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda’ch awdurdod lleol.
Meini prawf cymhwysedd
Mae rhywun yn weithredwr arbed cerbydau os yw’n:
- arbed y cyfan neu rannau o gydrannau arbedadwy cerbydau modur ac yn gwerthu gweddill y cerbyd neu’n cael gwared ohono fel arall
- yn prynu cerbydau anaddas i fod ar y ffordd ac yn trwsio ac yn gwerthu’r un cerbyd
- yn gwerthu neu brynu cerbydau modur at bwrpas un o’r ddau weithgarwch uchod.
Proses gwerthuso’r cais
Rhaid i geisiadau cofrestru ateb unrhyw ofynion a osodir gan yr awdurdod lleol a rhaid cynnwys y ffi.
Gwrthodir ceisiadau os nad yw’r awdurdod lleol yn fodlon fod yr ymgeisydd yn berson addas a chymwys i gynnal busnes fel gweithredwr arbed cerbydau. Bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw droseddau blaenorol. Os gwrthodir cais neu gais adnewyddu gan yr awdurdod lleol nid yw’n rhaid iddo ystyried unrhyw geisiadau eraill gan yr un person am 3 blynedd ar ôl dyddiad y gwrthodiad.
Gall awdurdod lleol ddiddymu cofrestriad a does dim rhaid iddo ystyried unrhyw gais cofrestru gan y gweithredwr y diddymwyd ei gofrestriad am 3 blynedd ar ôl dyddiad y diddymu.
Os yw awdurdod lleol yn bwriadu gwrthod cais neu ddiddymu cofrestriad rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ymgeisydd neu’r gweithredwr. Rhaid i’r hysbysiad roi manylion yr hyn mae’n bwriadu ei wneud, y rhesymau dros hynny a’r cyfnod pan all y person wneud cynrychioliadau. Ni all y cyfnod hwn fod yn llai nag 14 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad.
Rhoddir hysbysiad yn rhoi manylion penderfyniad yr awdurdod lleol o ran caniatáu cais, adnewyddu cofrestriad neu ddiddymu cofrestriad.
Rhaid hysbysu’r awdurdod lleol o newidiadau i’r wybodaeth a gofrestrwyd o fewn 28 diwrnod i’r newid.
Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.
Deddfau perthnasol
Rheoliadau Gweithredwyr Arbed Cerbydau (cyswllt i wefan allanol Saesneg)
A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.
Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf. Os gwrthodir cais gall yr ymgeisydd apelio yn y Llys Ynadon lleol. Rhaid apelio o fewn 21 diwrnod i hysbysiad yr awdurdod lleol.
Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf. Os yw cais adnewyddu’n cael ei wrthod neu os diddymir cofrestriad gall y gweithredwr apelio yn y Llys Ynadon lleol. Rhaid apelio o fewn 21 diwrnod i hysbysiad yr awdurdod lleol.
Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).
Cymdeithasau masnach
British Metals Recycling Association (BMRA)
Car and Accessory Trader (CAT)
Motor Vehicle Dismantlers Association (MVDA)