Cofrestru adeilad ar gyfer priodas a phartneriaeth sifil
I gynnal seremoni sifil neu briodas mewn adeilad yng Nghymru neu Loegr, rhaid i’r adeilad gael ei gymeradwyo gan eich awdurdod lleol.
Cofrestru addoldy
Mae angen i bob capel/eglwys fod yn ‘adeilad addoli ardystiedig’ cyn y gellir cynnal seremoni briodas grefyddol yno.
Seremonïau sifil
Mae angen i bob gwesty/adeilad yng Ngwynedd gael ei gymeradwyo ar gyfer cynnal seremonïau sifil cyn gellir cynnal seremoni yno.
Ffioedd trwyddedu adeilad ar gyfer priodas / partneriaethau sifil
Rhaid i chi fod yn berchennog neu’n ymddiriedolwr ar y safle i wneud cais am ganiatâd i gynnal seremonïau sifil neu briodasau. Gall ffi fod yn daladwy.
Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig a chynnwys:
- enw a chyfeiriad yr ymgeisydd
- unrhyw wybodaeth arall y mae ar yr awdurdod lleol ei hangen
- cynllun o’r adeilad sy’n nodi’n glir yr ystafell neu’r ystafelloedd lle bydd y gweithrediadau'n digwydd
Bydd archwiliad o'ch adeilad. Bydd eich cais a’ch cynllun ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio a bydd hysbysiad cyhoeddus o’r cais yn cael ei roi mewn papur lleol fel rhan o broses ymgynghoriad cyhoeddus.
Iddo gael ei ganiatáu rhaid i’ch cais fod yn y fformat cywir a rhaid i’ch safle gael ei ystyried yn addas.
Gall amodau gael eu gosod ar eich cymeradwyaeth.
Gall y Cofrestrydd Cyffredinol roi arweiniad i awdurdodau lleol i’w cynorthwyo i wneud eu penderfyniad.
Na. Mae'n ofynnol i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â nhw.
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Mae gennych hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad yr awdurdod lleol i wrthod eich cais.
Rhaid i chi fynd â’ch cais am adolygiad i’r swyddog cywir yn yr awdurdod lleol, gydag unrhyw ffi y gofynnir amdani.
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Mae gennych hawl i ofyn am adolygiad o unrhyw amodau a osodir gan yr awdurdod lleol neu o benderfyniad i wrthod adnewyddu neu i dynnu cymeradwyaeth yn ôl.
Rhaid i chi fynd â’ch cais am adolygiad i’r swyddog cywir yn yr awdurdod lleol, gydag unrhyw ffi y gofynnir amdani.
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU(UK European Consumer Centre).
Os ydych yn gwrthwynebu cais i gymeradwyo eiddo gallwch hysbysu’r awdurdod lleol hyd at 21 diwrnod wedi i’r hysbysiad o’r cais ymddangos yn y papur lleol. Mae rhybuddion cyfredol i'w gweld isod.
Rhybuddion cyfredol
Gweld rhestr o'r gwestai ac adeiladau yng Ngwynedd sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer cynnal seremonïau sifil:
Gwestai / adeiladau wedi'u cymeradwyo