Cymeradwyo eiddo bwyd

Dan y gyfraith, mae’n rhaid i eiddo sy’n cael ei ddefnyddio gan fusnes bwyd gael eu cofrestru; mae manylion cofrestru eiddo bwyd ar ein gwefan.

Yn ogystal â hyn, bydd ar rai busnesau sy’n prosesu cynnyrch anifeiliaid angen eu cymeradwyo dan 853/2004. Mae cynnyrch anifeiliaid yn cynnwys cynnyrch cig, pysgod, llaeth, wyau, braster, mêl a gwaed.


Gwneud cais

I holi am fwy o fanylion, neu i gofrestru a chael cymeradwyaeth, ffoniwch 01766 771000. Bydd angen cofrestru’r eiddo hefyd a bydd swyddogion y cyngor yn rhoi help i chi gael eich cymeradwyo. Bydd archwiliad o’r safle’n cael ei gynnal.


Deddfwriaethau perthnasol:

178/2002: Egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfreithiau bwyd
852/2004: Ynghylch hylendid bwyd
853/2004: Rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd o anifeiliaid


Gwefannau defnyddiol:

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
The Chartered Institute of Environmental Health
Food and Drink Federation
DEFRA
Drinking Water Inspectorate
Sefydliad Safonau Masnach
Health and Safety Executive