Siop a sinema rhyw
I gadw siop ryw – unrhyw adeilad sy’n gwerthu teganau, llyfrau a fideos rhyw – efallai fod arnoch angen trwydded gan yr awdurdod lleol. Hefyd, i gadw adeilad lle dangosir ffilmiau penodol rywiol i aelodau o’r cyhoedd, mae arnoch angen trwydded gan eich awdurdod lleol.
Fodd bynnag, gallwch wneud cais at yr awdurdod lleol yn gofyn iddynt hepgor yr angen am drwydded.
Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i ymgeisydd:
- fod dros 18 oed
- bod heb ei wahardd rhag dal trwydded
- bod wedi byw yn y DU am o leiaf chwe mis yn union cyn y cais neu, os yn gorfforaeth gorfforedig, rhaid bod yn gorfforedig yn y DU
- bod heb gael gwrthod caniatâd neu adnewyddiad trwydded am yr adeilad dan sylw o fewn y 12 mis diwethaf, os na wyrdrowyd y gwrthodiad ar apêl.
Proses gwerthuso’r cais
Bydd ffi yn daladwy am geisiadau a gall amodau fod ynghlwm wrthynt.
Rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig ac chynnwys unrhyw wybodaeth y mae ar yr awdurdod lleol ei hangen, yn ogystal ag enw’r ymgeisydd, cyfeiriad a, phan fo’r ymgeisydd yn unigolyn, eu hoed ynghyd â chyfeiriad yr eiddo.
Rhaid i ymgeiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cais drwy gyhoeddi hysbyseb mewn papur lleol.
Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.
Deddfau perthnasol
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (cyswllt allanol – Saesneg yn unig)
A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae'n ofynnol i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.
Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded, neu adnewyddu trwydded, iddo apelio at y Llys Ynadon lleol o fewn 21 niwrnod i gael gwybod am y penderfyniad.
Ond nid yw’r hawl i apelio'n berthnasol pan wrthodwyd trwydded ar y sail fod:
- nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal yn fwy na’r nifer y mae’r awdurdod yn ei ystyried yn addas
- y byddai rhoi’r drwydded yn amhriodol oherwydd natur yr ardal, natur eiddo arall yn yr ardal, neu’r adeilad ei hun.
Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Gall deiliad trwydded sy’n dymuno apelio'n erbyn amod wneud hynny yn y Llys Ynadon lleol.
Gall deiliaid trwydded bob amser wneud cais i’r awdurdod am amrywio’r termau, amodau a’r cyfyngiadau ar eu trwydded.
Os gwrthodir cais am amrywiad, neu os tynnir y drwydded yn ôl, gall deiliad y drwydded apelio yn y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod i gael gwybod am y penderfyniad i ychwanegu, neu wrthod amrywio, unrhyw derm, amod neu gyfyngiad, neu i dynnu’r drwydded yn ôl.
Gall deiliad trwydded hefyd apelio yn Llys y Goron yn erbyn penderfyniad gan y Llys Ynadon.
Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).
Camau eraill
Gall unrhyw berson sy’n gwrthwynebu cais i roi, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded hysbysu’r awdurdod penodol o’u gwrthwynebiad yn ysgrifenedig o fewn 28 niwrnod i ddyddiad y cais.