Cwrb gostwng

Mae cwrb gostwng yn is nag uchder arferol gyda'r pafin wedi cael ei gryfhau er mwyn medru dal pwysau cerbyd i ddreifio drosto, fel arfer ar gyfer mynediad i eiddo. Mae angen i'r sawl sy'n dymuno codi neu addasu cwrb gostwng ofyn caniatâd y Cyngor am drwydded yn unol ag Adran 184 yn y Ddeddf Priffyrdd.

Gwneud cais am gwrb gostwng

Ar ôl i chi dalu'r ffi na ellir ei ad-dalu o £261, bydd Cyngor Gwynedd yn adolygu eich cais ac yn trefnu i swyddog gynnal archwiliad. Os ydyn nhw'n penderfynu y bydd cwrb gostwng yn addas, bydd gan yr ymgeisydd drwydded i gychwyn ar y gwaith yn unol ag Adran 184 Deddf Priffyrdd yn dilyn cyfnod ymgynghori o 15 diwrnod gwaith.