Sgip

Mae’n rhaid cael trwydded cyn gosod sgip ar briffordd gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys rhoi sgip ar balmant ac wrth ymyl gwair. Y Cyngor sydd yn gyfrifol am roi y trwyddedau hyn. 


Sut mae gwneud cais?

Dim ond cwmnïau llogi sgipiau sydd yn gallu gwneud cais am drwydded. Nid oes modd i unigolion wneud cais.

Os ydych angen sgip, cysylltwch â chwmni llogi sgipiau o’ch dewis. Fe fyddan nhw yn gwneud y cais am drwydded ar eich rhan.

Dylai cwmnïau llogi sgipiau gwblhau’r ffurflen gais isod.

Gwneud cais ar-lein 

Bydd angen cwblhau ffurflen gais 5 diwrnod gwaith cyn y dyddiad rydych eisiau i'r drwydded gychwyn.

  

Ffioedd 

£70 yw cost pob cais am drwydded sgip.

Os bydd y cais yn cael ei ganiatáu bydd y drwydded yn ddilys am 1 mis.

Er mwyn cael estyniad i'r drwydded bydd yn rhaid adnewyddu cyn i'r drwydded ddod i ben.

 

Ffioedd adnewyddu 

£70 y mis yw cost adnewyddu trwydded.

Cysylltwch â ni i adnewyddu eich cais

  • 01766 771 000.

Noder: Ni fydd ad-daliad os fydd cais yn aflwyddiannus.

 

Eisiau talu dirwy?

Os rydych wedi derbyn dirwy am beidio cael trwydded sgip cysylltwch â ni i dalu'r ddirwy:

01766 771 000

 

Rhagor o wybodaeth