Eisteddle chwaraeon - tystysgrif diogelwch

Os ydych yn gweithredu maes chwaraeon yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban lle nad yw’n ofynnol cael tystysgrif ddiogelwch maes chwaraeon, efallai y bydd angen tystysgrif ddiogelwch ar gyfer unrhyw eisteddle dan orchudd sy’n dal mwy na 500 o wylwyr.

Gall tystysgrif ddiogelwch fod yn:

  • dystysgrif ddiogelwch gyffredinol sy’n cwmpasu defnyddio’r eisteddle ar gyfer gwylio gweithgaredd, neu nifer o weithgareddau, a nodir ar y dystysgrif am gyfnod amhenodol sy’n dechrau ar ddyddiad penodol
  • tystysgrif ddiogelwch arbennig sy’n cwmpasu defnyddio’r eisteddle ar gyfer gwylio gweithgaredd neu weithgareddau penodol ar achlysur neu achlysuron penodol.

Gall un dystysgrif fod yn berthnasol i fwy nag un eisteddle.

Mae tystysgrifau i’w cael gan eich awdurdod lleol.

Mae’n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm â’r dystysgrif.

Meini prawf cymhwysedd

Y sawl sy’n gyfrifol am reoli’r maes chwaraeon yn unig sy’n gymwys i gael tystysgrif ddiogelwch gyffredinol.
Y sawl sy’n gyfrifol am y gweithgaredd fydd yn cael ei wylio o’r eisteddle ar yr achlysur hwnnw yn unig sy’n gymwys i gael tystysgrif ddiogelwch arbennig.

Proses gwerthuso’r cais

Rhaid i’r ymgeisydd ddarparu’r cynlluniau a’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i’r awdurdod lleol yn yr amser a nodwyd.  Os yw’r ymgeisydd yn methu â darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn y cyfnod a nodwyd bernir bod y cais wedi’i dynnu yn ôl.

Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a yw unrhyw eisteddle yn yr ardal yn eisteddle i’w reoleiddio.  Os penderfynir felly, rhoddir hysbysiad i’r unigolyn y mae’n ymddangos y byddai’n briodol cyflwyno tystysgrif ddiogelwch gyffredinol iddo.  Bydd yr hysbysiad hwn yn rhoi manylion am y penderfyniad ac effeithiau’r penderfyniad.

Pan fo awdurdod lleol yn derbyn cais am dystysgrif diogelwch cyffredinol ar gyfer eisteddle rheoledig mewn maes chwaraeon bydd yn rhaid penderfynu a yw’r eisteddle yn eisteddle rheoledig ac ai’r ymgeisydd yw’r person priodol i gyflwyno’r dystysgrif iddo. Os penderfynwyd eisoes fod yr eisteddle yn un rheoledig, ac os nad yw’r penderfyniad hwn wedi’i ddiddymu, rhaid penderfynu ai’r ymgeisydd yw’r unigolyn y mae’n gymwys cyflwyno’r dystysgrif ddiogelwch cyffredinol iddo.

Os yw’r awdurdod lleol yn derbyn cais am dystysgrif ddiogelwch arbennig ar gyfer eisteddle rheoledig mae’n rhaid penderfynu a yw’n gymwys cyflwyno’r dystysgrif i’r ymgeisydd.

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o gais am drwydded ddiogelwch i brif swyddog heddlu’r ardal, yr awdurdod tân ac achub a’r awdurdod adeiladu yng Nghymru a Lloegr. Rhaid ymgynghori â phob un o’r cyrff hyn ynghylch y telerau a’r amodau sydd i’w cynnwys mewn tystysgrif.

Os gwneir cais i drosglwyddo tystysgrif rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a fyddai’r unigolyn y gofynnir am drosglwyddo’r dystysgrif iddo yn gymwys i dderbyn tystysgrif petai’n gwneud cais. Gall y ymgeisydd fod yn ddeiliad cyfredol y dystysgrif neu’r unigolyn y bwriedir trosglwyddo’r dystysgrif iddo.

Bydd yr awdurdod lleol yn anfon copi o’r cais i brif swyddog heddlu’r ardal, yr awdurdod tân ac achub a’r awdurdod adeiladu yng Nghymru a Lloegr. Bydd yn ymgynghori â nhw ynghylch unrhyw newid, adnewyddu neu drosglwyddo arfaethedig.

Gwneud cais

Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

Deddfau perthnasol

Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif ddiogelwch iddo am nad yw’n cael ei ystyried yn berson cymwys apelio yn y Llys Ynadon.

Gall ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif ddiogelwch arbennig iddo hefyd apelio yn y Llys Ynadon yn erbyn gwrthodiad o’i gais ar sail heblaw nad yw’n berson cymwys.

Camau gan ddeiliad trwydded

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Rhaid i unrhyw ddeiliad tystysgrif sy’n dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm â, neu unrhyw beth a eithriwyd, o’u tystysgrif diogelwch, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod newid neu amnewid tystysgrif ddiogelwch, gyflwyno apêl i’r Llys Ynadon.

Cwyn gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU.

Cwynion eraill

Gall unrhyw unigolyn y rhoddir hysbysiad iddo yn nodi bod eisteddle chwaraeon yn un rheoledig gyflwyno apêl i’r Llys Ynadon lleol.

Gall unrhyw un sydd â rhan yn sicrhau cydymffurfio â thelerau ac amodau’r dystysgrif ddiogelwch gyflwyno apêl i’r Llys Ynadon yn erbyn unrhyw amod sydd ynghlwm â, neu unrhyw beth a eithriwyd o, dystysgrif diogelwch, neu yn erbyn penderfyniad i wrthod newid neu adnewyddu tystysgrif diogelwch.


Cymdeithasau masnach

Federation of Sports and Play Associations (FSPA)