Hypnotiaeth

Os ydych am ddangos, arddangos neu berfformio gweithred hypnoteiddio yn gyhoeddus, rhaid i’r awdurdod lleol awdurdodi hynny yng Nghymru a Lloegr.

Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth yr awdurdodi.

Ni fydd ffi i'w thalu.

Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

Deddfau perthnasol
Deddf Hypnotiaeth 1952 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae'n ofynnol i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).

Cymdeithasau masnach
Agents Association
Equity
National Entertainment Agents Council
Society for All Artists (SAA)