Maes gwersylla

Os ydych yn caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio eich tir chi fel safle gwersylla am fwy na 42 diwrnod yn olynol – neu 60 diwrnod mewn blwyddyn – mae’n rhaid i chi gael trwydded gan eich awdurdod lleol. Gellir rhoi amodau ar y drwydded.

Eithrir mudiadau sydd â thystysgrif yn eu heithrio o’r rheolau safle gwersylla.

Proses gwerthuso'r cais
Pan gyflwynir cais tybir ei fod yn cael ei wneud yn ddiamod, oni bai bod yr awdurdod lleol yn hysbysu bod y cais wedi’i wrthod neu bod amodau ynghlwm â’r drwydded.

Gwneud cais
I wneud cais am drwydded safle gwersylla yng Ngwynedd, neu i wneud cais i newid trwydded, ffoniwch 01766 771000.

Deddfau perthnasol
Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae'n ofynnol i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.  Os gwrthodir rhoi trwydded i ymgeisydd gall gyflwyno apêl i’r Llys Ynadon lleol.

Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.  Gall deiliad trwydded gyflwyno apêl i’r Llys Ynadon lleol yn erbyn amod ar eu trwydded. 

Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).

Cymdeithasau masnach
Association of Caravan and Camping Exempted Organisations (ACCEO)
British Holiday & Home Parks Association (BH&HPA)
British Resorts and Destinations Association
Caravan Industry Training (CITO)
Federation of Tour Operators (FTO)
Group Travel Organisers Association (GTOA)
Hotel Marketing Association
National Caravan Council (NCC)