Penodi Aelod Lleyg: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio  

Mae’r pwyllgor statudol hwn yn rhan allweddol o fframwaith llywodraethu Cyngor Gwynedd. Diben y Pwyllgor yw darparu sicrwydd annibynnol ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd ein fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol, asesu perfformiad, ymdrin â chwynion a chywirdeb y dulliau adrodd ariannol a’r prosesau llywodraethu.  Mae’n gwneud cyfraniad allweddol tuag at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol yn eu lle. 

Mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cyfarfod chwech gwaith y  flwyddyn ac mae Aelodau Lleyg (Aelodau Annibynnol) yn derbyn tâl ariannol am fynychu yn unol â’r cyfraddau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol  (adran 9, tudalen 50). 


Beth yw Aelod Lleyg?
 

Mae Aelod Lleyg yn golygu nad yw person:

  1. Yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol, 
  2. Wedi bod yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol ar unrhyw adeg yn y cyfnod o ddeuddeng mis yn gorffen ar ddyddiad y penodiad, nac

  3. Yn briod nac yn bartner sifil i aelod neu swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol. 

Yn ogystal â bodloni’r meini prawf hyn, bydd angen i ymgeiswyr addas fod yn anwleidyddol gyda dealltwriaeth ac ymroddiad i’r 7 Egwyddor o Fywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) a gallu dangos y rhinweddau a’r priodoleddau canlynol: 

  • Diddordeb a gwybodaeth/profiad o reoli materion ariannol, risg a pherfformiad, archwilio, cysyniadau a safonau cyfrifeg, a’r drefn reoleiddio yng Nghymru; 

  • Meddwl gwrthrychol ac annibynnol gydag agwedd ddiduedd a’r gallu i fod yn gynnil; 

  • Cefnogi egwyddorion llywodraethu da a’u defnyddio'n ymarferol er mwyn cyflawni’r amcanion sefydliadol; 

  • Meddwl yn strategol gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog; 

  • Gallu deall a phwyso a mesur tystiolaeth a herio gyda pharch.  

Nid yw gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol yn angenrheidiol, er y disgwylir i ymgeiswyr posibl fod â diddordeb mewn materion yn ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus. 

 

Gweld gwybodaeth bellach am y rôl 

 

Gwneud cais 

Os oes gennych ddiddordeb neu brofiad ym maes llywodraethu, archwilio, rheoli perfformiad neu reoli risg ac yn awyddus i helpu Cyngor Gwynedd i sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, gallwch wneud cais ar-lein – nid ydym yn derbyn CVs.  I lenwi’r ffurflen ar-lein bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch. 

Ffurflen gais ar-lein

Dyddiad cau: 16 Tachwedd 2022

 

Ar ôl gwneud cais i fod yn Aelod Lleyg 

Byddwn yn ystyried pob cais a dderbyniwn ac yn cysylltu ag ymgeiswyr mor fuan â phosib.