Ymchwiliadau Craffu

Bwriad Ymchwiliadau Craffu yw asesu effaith polisïau cyfredol a/neu berfformiad gwasanaethau.

Mae hyn yn cael ei wneud drwy gasglu tystiolaeth angenrheidiol sydd yn cynnwys gwrando ar brofiadau pobl mewn cyfnod o tua 6 i 9 mis.

Rydym yn defnyddio dulliau gwahanol e.e. cyfweliadau gydag unigolion neu grwpiau, ymgynghori, gwaith ymchwil i ymarfer da, ymweliadau â Chynghorau eraill, ayyb. Pen draw pob ymchwiliad craffu yw cyflwyno adroddiad gydag argymhellion ar sail tystiolaeth gadarn yn gyntaf i’r Pwyllgor Craffu ac yna i’r Aelod Cabinet perthnasol.

Bydd yr Aelod Cabinet perthnasol yn ymateb i'r argymhellion ac os bydd yn eu derbyn bydd yn cyflwyno diweddariadau i'r Pwyllgor Craffu.

Mae cyfyngiad amser, trwy ddiffiniad, ar yr Ymchwiliadau Craffu ac maent ond yn bodoli am gyfnod y prosiect sydd wedi’i neilltuo ar eu cyfer. Unwaith y mae’r prosiect wedi’i gwblhau, maent yn dod i ben.


Sut mae'r ymchwiliad craffu yn digwydd?

  • Gellir derbyn cais i gynnal ymchwiliad craffu gan un ai Cabinet y Cyngor, Aelod Cabinet unigol, Aelodau Pwyllgorau Craffu neu gan aelodau o’r cyhoedd. 
  • Bydd maes ymchwiliad craffu fel arfer yn cael ei ddewis ar sail yr egwyddorion canlynol:
    • Ydi'r mater yn bwysig i bobl Gwynedd
    • Ydi'r mater yn flaenoriaeth i'r aelodau etholedig
    • Ydi'r mater ar Raglen Waith y Cabinet
    • Ydi'r mater yn perfformio'n wael
    • Ai nawr yw'r amser gorau i graffu'r mater
    • Osgoi dyblygu ymdrechion rhwng y Cabinet a’r aelodau craffu
  • Gall fod yn faes polisi neu wasanaeth sydd:
    • Yn llwyr gyfrifoldeb y Cyngor (er enghraifft, Gwasanaethau Cymdeithasol);
    • Yn cael ei rannu ag asiantaeth neu asiantaethau eraill ( er enghraifft gofal preswyl); neu 
    • Sydd y tu allan i gylch cyfrifoldeb uniongyrchol y Cyngor, ond sydd o bryder cymunedol ac yn rhywbeth y gall fod o ddiddordeb i’r Cyngor (e.e. Swyddfeydd Post) 
  • Os penderfynir cynnal ymchwiliad, yn dilyn cyd-weld y sgôp, yr aelodau craffu fydd yn arwain ar y gwaith.  Gall hyn olygu fod yr ymchwiliad yn dod â negeseuon o’r newydd, negeseuon fydd o bosib yn groes i gyfeiriad y Cabinet.
  • Bydd Pwyllgor Craffu yn ethol nifer fechan o aelodau etholedig o’u plith i weithredu ar Grŵp Ymchwiliad Craffu gan gynnwys ystyried cyfethol arbenigedd allanol.
  • Mae cefnogaeth i bob Ymchwiliad Craffu gan swyddogion annibynnol.  Bydd y swyddogion yn cynghori, yn gwneud gwaith ymchwil a chynorthwyo aelodau’r Grŵp Ymchwiliad Craffu i baratoi adroddiad ac argymhellion drafft er cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu perthnasol.
  • Bydd pob Grŵp Ymchwiliad Craffu yn ethol Cadeirydd o’u plith.  


Adroddiadau'r Ymchwiliadau Craffu

Dyma Adroddiadau’r Ymchwiliadau Craffu diweddaraf: