Adroddiadau Blynyddol
Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol i wneud trefniadau i aelodau etholedig lunio adroddiad blynyddol o’u gweithgareddau os ydynt yn dymuno.
Bwriad yr Adroddiadau Blynyddol gan yr Aelodau Etholedig yw gwella cyfathrebu rhwng aelodau etholedig a’r cyhoedd, mewn geiriau eraill, cyflwyno gwybodaeth ffeithiol o weithgareddau i unigolion o’r ward. Cydnabyddir mai un dull yn unig yw’r adroddiadau blynyddol o fod yn cyfathrebu gyda’r etholwyr.