Y Cabinet
Mae'r Cabinet yn cynnwys 10 Cynghorydd ac yn cael ei gadeirio gan Arweinydd y Cyngor. Mae gan bob un o’r Aelodau bortffolio penodol o gyfrifoldeb am feysydd o fewn gwasanaethau’r Cyngor.
Blaenraglen waith
Mae blaenraglen waith y Cabinet yn cael ei chyhoeddi bob chwarter er mwyn rhoi rhybudd ymlaen llaw am yr hyn fydd yn cael ei drafod a’i benderfynu gan y Cabinet. Mae hon yn ddogfen 'fyw' gydag eitemau yn cael eu hychwanegu yn gyson yn ôl yr angen.
Rhaglenni a chyfarfodydd y Cabinet
Mae'r rhaglenni yn cynnwys adroddiadau ac atodiadau am yr eitemau sy'n cael eu trafod yn y cyfarfodydd:
Mae'r rhaglenni hefyd ar gael yn Siop Gwynedd, Caernarfon 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.
Mae cyfarfodydd y Cabinet ar agor i’r cyhoedd ac aelodau’r wasg (ag eithrio eitemau eithriedig). Gallwch hefyd wylio’r cyfarfod yn fyw neu wylio cyfarfodydd y Cabinet sydd wedi’u harchifo
Taflenni penderfyniad
Mae dau fath o daflen benderfyniad:
Taflenni Penderfyniad y Cabinet
(Taflenni penderfyniad sy’n gofnod o benderfyniad a wnaed gan Aelodau’r Cabinet mewn cyfarfod ffurfiol o’r Cabinet. Mae Taflenni Penderfyniad cyfarfodydd y Cabinet yn ymddangos gyda Rhaglen a Chofnodion y cyfarfod Cabinet perthnasol.
Taflenni Penderfyniad Aelodau Unigol
Aelodau'r Cabinet
Aelodau'r Cabinet
Aelod Cabinet | Deilydd |
Arweinydd y Cyngor
|
- |
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros faterion
gweithredol economi a phrif rhaglenni trawsadrannol
|
Nia Jeffreys
|
Cefnogaeth Gorfforaethol |
Menna Trenholme |
Addysg |
- |
Cyllid |
Paul Rowlinson |
Amgylchedd |
- |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
Dilwyn Morgan |
Plant a Theuluoedd |
- |
Tai |
Craig ab Iago |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac
Ymgynghoriaeth Gwynedd
|
- |