Siopau Gwynedd
Mae tair Siop Gwynedd wedi eu lleoli yng Ngwynedd ble gallwch dderbyn cymorth wyneb yn wyneb am nifer o faterion.
- Siop Gwynedd Caernarfon: Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SE
- Siop Gwynedd Pwllheli: Swyddfa Ardal Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA
- Siop Gwynedd Dolgellau: Swyddfa Ardal Meirionnydd, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2YB
Oriau agor
Wedi cau dros dro oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws
Llun – Gwener (ac eithrio Gŵyliau Banc)
09:30 – 16:00
Gwasanaethau sydd ar gael
Ar hyn o bryd, mae help efo’r gwasanaethau yma ar gael yn Siop Gwynedd Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau:
- Treth Cyngor
- Budd-daliadau
- Bathodyn glas
- Digartrefedd
Os yw eich ymholiad ynghylch unrhywbeth arall, cysylltwch â ni drwy
Apwyntiadau
RHAID gwneud apwyntiad er mwyn cael mynediad i Siop Gwynedd. Bydd rhaid gwisgo gorchudd wyneb yn ystod yr apwyntiad (os nag ydych wedi eich eithrio am reswm meddygol)
Trefnwch apwyntiad drwy:
- lenwi ein ffurflen Apwyntiad Siop Gwynedd gan ddarparu gymaint o wybodaeth â phosib am eich ymholiad
- ffonio: 01766 771000
Darllenwch Delerau ac amodau Apwyntiad Siop Gwynedd cyn trefnu apwyntiad.
Peidiwch â mynychu’r apwyntiad os oes gennych unrhyw symptomau Covid-19 yn ystod y 10 diwrnod cyn eich apwyntiad, neu wedi bod mewn cysylltiad efo unrhyw berson sydd efo symptomau Covid-19 yn ystod yr 14 diwrnod cyn eich apwyntiad.
Os nad ydych yn gallu dod i’r apwyntiad am unrhyw reswm, cysylltwch â ni mor fuan â phosib er mwyn i ni gynnig yr apwyntiad i rhywun arall, drwy e-bostio fynghyfrif@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000.