Cynllun Cyhoeddi

Mae'r Cynllun Cyhoeddi yn disgrifio'r wybodaeth yr ydym fel awdurdod cyhoeddus yn ei gyhoeddi, neu'n bwriadu ei gyhoeddi. Mae’n ofynnol i Gyngor Gwynedd ddarparu Cynllun Cyhoeddi o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Mae’r wybodaeth yn cael ei drefnu yn ôl "dosbarthiadau o wybodaeth". Nid rhestr o'r cyhoeddiadau eu hunain yw'r rhestr, gan y bydd y rhestr honno'n newid wrth i ddeunyddiau newydd gael eu cyhoeddi neu wrth i'r deunyddiau sydd eisoes yn bodoli gael eu diwygio. Yn hytrach, dyma ein hymrwymiad i drefnu fod y wybodaeth a ddisgrifir ar gael.

Mae’n rhaid i’r Cynllun Cyhoeddi nodi'r dosbarthiadau o wybodaeth sy’n cael ei gyhoeddi, gan egluro sut mae cael gafael ar y wybodaeth a nodi os bydd tâl yn cael ei godi neu beidio.


Arweiniad i’r wybodaeth

Mae’r arweiniad isod yn nodi’r math o wybodaeth sydd ar gael o dan benawdau gwahanol, sef:

Mae’r wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim, oni bai y nodir yn wahanol.

Os nad oes enw cyswllt ar gyfer y wybodaeth, cysylltwch â’r Rheolwr Gwybodaeth drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon.


Amserlen ar gyfer ymateb

Bydd y Cyngor yn anelu i ddarparu’r wybodaeth yn syth mewn ymateb i gais. Os oes angen anfon copi caled trwy’r post, byddwn yn gwneud hyn o fewn 5 diwrnod gwaith. Os oes angen trefnu apwyntiad i ddod i weld y wybodaeth, byddwn yn cysylltu â’r unigolyn o fewn 5 diwrnod gwaith i wneud hynny.


Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau, sylwadau neu gwynion am y Cynllun, cysylltwch â ni:

  • Ffôn: 01766 771000
  • E-bost: RhyddidGwybodaeth@gwynedd.llyw.cymru
  • Cyfeiriad: Uwch Swyddog Statudol Diogelu Data, Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH


Cynllun Cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth

Mae’r Cyngor wedi penderfynu mabwysiadu cynllun enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth (dogfen Saesneg yn unig). 

I gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau cyhoeddi a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gyffredinol, ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth
www.ico.gov.uk