Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi’r hawl i’r cyhoedd weld gwybodaeth amgylcheddol a gedwir gan gyrff cyhoeddus.


Beth ydi Gwybodaeth Amgylcheddol?

Gwybodaeth am gyflwr yr amgylchedd, megis gwybodaeth am 

  • Aer, dwr, pridd, tir, blodau ac anifeiliaid
  • Allyriannau a gollyngiadau, sŵn, ynni, ymbelydredd a gwastraff
  • Iechyd a diogelwch a halogi’r gadwyn fwyd
  • Polisïau, cynlluniau a chytundebau


Sut mae gwneud cais?

Cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:

  • Ffôn: (01766) 771000
  • E-bost: rhyddidgwybodaeth@gwynedd.llyw.cymru
  • Cyfeiriad: Uwch Swyddog Statudol Diogelu Data, Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH


Faint fydd rhaid i mi aros am ymateb?

Mae'n rhaid i'r Cyngor ymateb i'r cais o fewn 20 diwrnod gwaith, ond mae ganddo’r hawl i ymestyn y cyfnod i 40 diwrnod gwaith os ydy'r cais yn un anodd a chymhleth.

Fydd rhaid talu ffi?

Gellir codi tâl rhesymol am ddarparu'r wybodaeth ond ni ellir codi tâl os ydych yn dymuno gweld unrhyw gofrestrau neu restrau o wybodaeth amgylcheddol neu’n galw heibio swyddfeydd y Cyngor i weld y wybodaeth.


Oes rhaid i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth i mi?

O dan rai amgylchiadau, gall y Cyngor wrthod cais am wybodaeth, os yw’n dod o dan un o’r eithriadau. Er enghraifft:

  • oherwydd fod y cais yn un afresymol
  • mae’r wybodaeth yn anghyflawn

Mae pob eithriad yn destun prawf lles y cyhoedd sy’n golygu bod rhaid i’r Cyngor ystyried a fyddai er lles y cyhoedd i ddarparu’r wybodaeth, hyd yn oed os oes eithriad yn berthnasol.


Beth os nad wyf yn fodlon gydag ymateb y Cyngor?

Dylech wneud cais am adolygiad mewnol a hynny o fewn 40 diwrnod gwaith o dderbyn y llythyr sy’n nodi bod y Cyngor wedi gwrthod eich cais. Mae gan y Cyngor yna 40 diwrnod gwaith i adolygu’r penderfyniad gwreiddiol, er bydd yn ceisio darparu ymateb cyn hynny.


Os ydych yn dal i fod yn anfodlon yn dilyn yr adolygiad mewnol, mae gennych hawl i apelio i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

EIR/FOI Complaints, Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

Am ragor o fanylion ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth