Gofyn Cwestiwn yn y Cyngor Llawn
Rydym yn croesawu cwestiynau gan y cyhoedd. Mae trefn syml i’w dilyn i’ch cynorthwyo chi a ni gyda hyn:
1. Gadael i ni wybod
- Mae’n rhaid i chi adael i ni wybod o flaen llaw eich bod yn dymuno gofyn cwestiwn.
- I wneud hyn mae angen i chi e-bostio y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ar y cyfeiriad e-bost: gwasanaethdemocratiaeth@gwynedd.llyw.cymru
-
Rhaid i chi gyflwyno eich cwestiwn cyn canol dydd 10 diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Ni ellir derbyn cwestiwn y tu allan i’r amserlen yma. Gweler y tabl isod i’ch helpu.
Cwestiwn Cyngor Llawn
Llun | Mawrth | Mercher | Iau | Gwener |
|
|
Cyflwyno cwestiwn cyn hanner dydd |
10 |
9 |
8 |
7 |
6 |
5 |
4 |
3 |
2 |
1 |
Diwrnod y cyfarfod |
|
-
RHAID i chi gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad yn llawn (ni fydd eich cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi wrth gyhoeddi’r cwestiwn).
-
Cofiwch, dim ond un cwestiwn gewch chi ei gyflwyno mewn unrhyw un cyfarfod.
2. Ga i ofyn cwestiwn am unrhyw beth?
Caiff y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wrthod cwestiwn:
- (a) os nad yw’n ymwneud â mater y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdano neu sy’n effeithio ar y sir;
- (b) os yw’n ddifenwol, yn wacsaw neu’n sarhaus;
- (c) os yw’n sylweddol debyg i gwestiwn a gyflwynwyd mewn cyfarfod o’r Cyngor yn ystod y chwe mis diwethaf;
- (ch) os yw’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol neu eithriedig;
- (d) os yw'n ymwneud â chwyn (dylai cwynion gael eu cyflwyno trwy drefn gwyno'r Cyngor);
- (dd) os yw'n ymwneud â chais penodol am ganiatâd, trwydded, cydsyniad, cymeradwyaeth neu gofrestriad, neu unrhyw gamau gorfodi yn ymwneud â mater o'r fath;
- (e) os yw'n ymwneud ag aelod penodol, aelod o staff y Cyngor neu aelod o'r Cyhoedd;
- (f) pe bai darparu ateb yn golygu cost ac ymdrech afresymol; neu (ff) os yw'n ymwneud a mater lleol sydd heb arwyddocâd ehangach i'r Sir.
3. Beth sy’n digwydd ar ôl cyflwyno cwestiwn?
-
Bydd pob cwestiwn sy’n cael ei dderbyn o fewn yr amserlen yn cael ei gofnodi yn y drefn y cafodd ei dderbyn.
-
Byddwch yn derbyn gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod – cewch fynychu’r siambr neu fynychu’r cyfarfod yn rhithiol. Bydd swyddogion yn cysylltu o flaen llaw i fynd trwy’r trefniadau.
-
Bydd copïau o bob cwestiwn yn cael eu dosbarthu i bob Cynghorydd ac yn cael eu cyhoeddi yn y rhaglen.
4. Beth sy’n digwydd yn ystod y cyfarfod?
- Os ydych yn bresennol, byddwch yn cael eich gwahodd gan y Cadeirydd i ddod ymlaen i ofyn eich cwestiwn (yr union eiriad sydd wedi ei nodi ar eich cwestiwn ysgrifenedig).
- Bydd gennych hawl i ofyn UN cwestiwn ychwanegol i’r Cynghorydd a atebodd y cwestiwn gwreiddiol. Gelwir hyn yn ‘gwestiwn atodol’ ac mae’n rhaid iddo godi’n uniongyrchol o’r cwestiwn gwreiddiol neu’r ymateb. Gall y Cadeirydd wrthod eich cwestiwn atodol fel a nodir yn 2a-f uchod.
- Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, mae modd i chi ofyn i’r Cadeirydd ofyn y cwestiwn ar eich rhan. Bydd ateb ysgrifenedig yn cael ei roi mewn achlysur o’r fath.
- Ni fydd trafodaeth yn cael ei chynnal ar unrhyw gwestiwn, ond gall Cynghorydd gynnig bod mater a godwyd gan gwestiwn yn cael ei gyfeirio at y Cabinet neu bwyllgor priodol. Os yw hyn yn digwydd, bydd rhaid i’r cynnig gael ei eilio, yna pleidlais, ond dim trafodaeth.
- Mae cyfyngiad amser o 30 munud ar gyfer cwestiynau gan y cyhoedd (cyfanswm yr amser i’r holl gwestiynau yw hyn). Os nad oes modd ymdrin a’ch cwestiwn o fewn yr amser, neu os nad yw’r Cynghorydd y bwriadwyd y cwestiwn ar ei gyfer yn gallu bod yn bresennol, byddwch yn derbyn ateb ysgrifenedig.
Mae'r manylion llawn i’w weld yng Nghyfansoddiad y Cyngor (4.17)