Yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu amdanoch chi
Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu, prosesu, cadw a rhannu yn cynnwys:
- Enw llawn
- Dyddiad geni
- Cyfeiriad presennol
- Lleoliad geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Manylion y budd-daliadau yr ydych yn eu derbyn sy'n ymwneud â'ch symudedd
- Prawf adnabod
- Gwybodaeth feddygol a ddarperir gennych i gefnogi eich cais
- Eich llun
- Manylion cyswllt a ddarparwyd gennych, sy'n cynnwys rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost a ddefnyddir i gysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth am eich cais, i'ch diweddaru, ac i anfon y penderfyniad a'r Bathodyn Glas atoch os byddwch yn gymwys.
Pam yr ydym yn casglu a defnyddio'r wybodaeth hon
Rydym yn cadw ac yn defnyddio data eich cais am Fathodyn Glas i:
- asesu a ydych yn gymwys am Fathodyn Glas
- cynhyrchu a dosbarthu'r bathodyn
- monitro defnydd
Pam mae gennym hawl i ddefnyddio'ch gwybodaeth
Rydym yn casglu ac yn defnyddio'r wybodaeth hon fel rhan o dasg cyhoeddus y Cyngor, a'r ddeddfwriaeth berthnasol yw:
Adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970
Caiff unrhyw wybodaeth categori arbennig (sensitif) (h.y. gwybodaeth yn ymwneud ag iechyd) ei phrosesu o dan amod diddordeb cyhoeddus sylweddol (Erthygl 9(2)(g) y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Am faint fyddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol
Cedwir yr wybodaeth am gyfnod o bedair blynedd (o ddyddiad y cais)
Gyda phwy fyddwn ni'n rhannu'r wybodaeth
Byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda'r Adran Drafnidiaeth, sy'n gyfrifol am y cynllun.
Rhennir eich manylion gyda Valtech Limited, sef y cwmni sy'n cynnal y system Bathodynnau Glas cenedlaethol.
Os byddwch yn gymwys i gael bathodyn, rhennir eich manylion hefyd gydag APS, sef y cwmni sy'n cynhyrchu ac yn postio'r bathodynnau.
Os byddwch yn penderfynu nad ydych yn dymuno derbyn diweddariadau am eich cais, rhennir eich manylion hefyd gyda gwasanaeth Government Notify.
Weithiau byddwn yn rhannu eich manylion gyda Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol Able 2, sy'n gyfrifol am gynnal Asesiadau Symudedd Annibynnol os bydd angen eich asesu i benderfynu a ydych yn gymwys.
Byddwn yn cysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau i wirio a ydych yn derbyn y budd-daliadau a ddatganwyd gennych mewn perthynas â'ch symudedd os nad ydych wedi darparu tystiolaeth o hyn.
Mae gan swyddogion gorfodaeth Gwasanaethau Parcio fynediad i fanylion Bathodynnau Glas er mwyn ymdrin â materion gorfodaeth a chanfod twyll.
Gall awdurdodau lleol eraill gael mynediad at yr wybodaeth er mwyn ceisio atal twyll.
Y Fenter Twyll Genedlaethol
Fel awdurdod cyhoeddus, mae'n ofyn cyfreithiol i’r Cyngor ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. Efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth a ddarperir i ni gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a datgelu twyll. Am wybodaeth bellach, cyfeiriwch at rybudd preifatrwydd y Fenter Twyll Genedlaethol.
A fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i wneud penderfyniadau awtomataidd?
Ni wneir unrhyw benderfyniadau neu broffilio awtomataidd.
Eich hawliau
Am wybodaeth am eich hawliau, a manylion Swyddog Diogelu Data y Cyngor, gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd.