Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybodaeth i chi ar sut mae Gwasanaeth Teleofal Cyngor Gwynedd (CG) yn casglu, prosesu a rhannu data personol. Yn unol â fersiwn a ddargedwir o gyfraith yr UE o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol ("GDPR y DU") a Deddf Diogelu Data 2018, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn amlinellu sut mae CG yn rheoli data a gasglwyd drwy gyflawni'r gwasanaeth teleofal. Gall hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i: data personol cwsmer, ac unrhyw wybodaeth bersonol ynghylch deiliaid allweddi, teulu, ffrindiau a gofalwyr, swyddogion ar alwad neu gontractwyr.
Rheolwr eich data personol yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC). Mewn rhai amgylchiadau, gall eich data personol gael ei reoli ar y cyd gan CBSC ac awdurdod lleol neu gomisiynydd gwasanaeth arall.
Wedi'i ddarparu gan CBSC, gwasanaeth monitro galwadau yw Galw Gofal sydd wedi'i leoli yng ngogledd Cymru ac yn darparu cefnogaeth ddwyieithog 24 awr y dydd bob dydd er mwyn cyflawni gofal cymdeithasol ac iechyd i helpu amddiffyn pobl fregus yn eu cartrefi eu hunain neu yn y man gwaith, yn ogystal â darparu diogelwch, sicrwydd ac annibyniaeth parhaol.
Y data personol rydym yn ei gasglu amdanoch chi
Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod y person hwnnw ohoni. Nid yw'n cynnwys data lle mae'r hunaniaeth wedi'i diddymu (data di-enw). Gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch fel a ganlyn:
- Mae Data Hunaniaeth yn cynnwys teitl, enw cyntaf, cyfenw, statws priodasol a rhyw y gwrthrychau data, cysylltiadau brys, cysylltiadau brys y tu allan i oriau, unrhyw un arall sy'n byw yn yr un eiddo â'r defnyddiwr gwasanaeth, landlord y defnyddiwr gwasanaeth (lle mae landlord o'r fath wedi comisiynu'r Gwasanaethau ar ran defnyddiwr gwasanaeth), asiantaethau gofal cartref neu weithwyr cefnogol i ddefnyddiwr gwasanaeth, contractwyr a enwir, swyddogion dyletswydd a rheolwyr a ddarparwyd gan unrhyw gyd-reolydd sydd wedi comisiynu'r Gwasanaethau ar ran y defnyddiwr/defnyddwyr gwasanaeth; oed, cyfeiriad a rhifau ffôn;
- Mae Data Cyswllt yn cynnwys cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y gwrthrychau data, cysylltiadau brys, cysylltiadau brys y tu allan i oriau, unrhyw un arall sy'n byw yn yr un eiddo â'r defnyddiwr gwasanaeth, landlord y defnyddiwr gwasanaeth (lle mae landlord o'r fath wedi comisiynu'r Gwasanaethau ar ran defnyddiwr gwasanaeth), asiantaethau gofal cartref neu weithwyr cefnogol i ddefnyddiwr gwasanaeth, contractwyr a enwir, swyddogion dyletswydd a rheolwyr a ddarparwyd gan unrhyw gyd-reolydd sydd wedi comisiynu'r Gwasanaethau ar ran unrhyw ddefnyddiwr/defnyddwyr gwasanaeth;
- Mae Data Proffil yn cynnwys rhif cyfeirnod offer unigryw a neilltuwyd i'r offer teleofal a osodwyd yng nghartref defnyddiwr gwasanaeth, rhif cyfeirnod bas data Gofal Cymdeithasol 'WCCIS' a ddyrannwyd i'r defnyddiwr gwasanaeth;
- Mae Data Defnydd yn golygu gwybodaeth am fodlonrwydd a manylion cwynion gan neu ynghylch defnyddwyr gwasanaeth.
Gallwn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo'r gwahanol fathau o ddata personol categori arbennig amdanoch fel a ganlyn:
- tarddiad hil neu ethnig;
- credoau crefyddol neu athronyddol;
- data ynghylch eich iechyd neu gyflwr meddyliol neu gorfforol, meddyginiaeth neu driniaeth arall, pryderon lles, disgrifiad corfforol neu lun; a
- rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
Gallwn hefyd gasglu, defnyddio a rhannu data cronnus megis data ystadegol neu ddemograffig at unrhyw ddiben. Gall data cronnus ddeillio o'ch data personol, ond ni ystyrir hwn yn ddata personol mewn cyfraith gan na fydd y data hyn yn datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Er enghraifft, gallwn gronni eich data defnydd i gyfrifo canran y defnyddwyr gwasanaeth sy'n gwneud galwadau brys. Fodd bynnag, os ydym yn cyfuno neu gysylltu data cronnus gyda'ch data personol fel ei fod yn eich adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, rydym yn trin y data cyfunol fel data personol a fydd yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth hwn.
Sut caiff eich data personol ei gasglu?
Rydym yn defnyddio dulliau gwahanol i gasglu data gan ac amdanoch chi, gan gynnwys drwy:
- ryngweithiadau uniongyrchol. Gallwch roi eich data adnabod a chyswllt i ni drwy lenwi ffurflenni neu gyfathrebu â ni drwy'r post, ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol yr ydych yn ei ddarparu wrth gofrestru fel defnyddiwr gwasanaeth, rhoi adborth i ni neu gysylltu â ni;
- technolegau neu ryngweithiadau awtomataidd. Wrth i chi ryngweithio gyda'n Gwasanaethau, byddwn yn casglu data technegol yn awtomatig ynghylch eich offer sy'n gysylltiedig â darparu'r Gwasanaethau. Rydym yn casglu'r data personol hwn drwy ddefnyddio cofnodion gweinydd a thechnolegau tebyg eraill;
- trydydd parti. Byddwn yn derbyn data personol amdanoch gan amryw o drydydd partïon, gan gynnwys unrhyw gyd-reolwyr sydd wedi comisiynu'r Gwasanaethau ar eich rhan, eich cysylltiadau brys, darparwyr gofal iechyd neu ofal cartref neu drydydd parti a ddefnyddir gennym wrth ddarparu'r Gwasanaethau.
Sut byddwn yn defnyddio eich data personol
Byddwn ond yn defnyddio eich data personol pan mae'r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Yn fwy cyffredin, byddwn yn defnyddio eich data personol yn yr amgylchiadau canlynol:
- pan fyddwn angen cyflawni cytundeb i ddarparu’r Gwasanaethau;
- lle mae'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiant dilys (neu rai trydydd parti) ac nad yw eich buddiannau a hawliau sylfaenol yn diystyru'r buddiannau hynny;
- lle bydd angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth cyfreithiol; neu
- i amddiffyn bywyd rhywun.
Yn gyffredinol, nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol er mwyn prosesu eich data personol.
Cyfiawnhad ar gyfer casglu a chofnodi gwybodaeth bersonol
Bydd Adran Oedolion, Iechyd a Lles Cyngor Gwynedd yn casglu'r wybodaeth bersonol er mwyn amddiffyn a darparu cefnogaeth i Oedolion oherwydd mae'n rhan o'n tasg gyhoeddus dan Erthygl 6 (1) (e) GDPR y DU, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae prosesu'r wybodaeth bersonol hon yn angenrheidiol ar gyfer yr Adran:
- er mwyn ymateb i anghenion Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
- gan ei fod yn ymgymryd â thasg er budd y cyhoedd.
Ar gyfer data categori arbennig (sef gwybodaeth am iechyd, grŵp ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol), byddwn yn dibynnu ar Erthygl 9(2)(h) sef iechyd a gofal cymdeithasol.
Ni fydd yr Adran yn defnyddio eich gwybodaeth i wneud penderfyniadau awtomataidd nac ar gyfer proffilio.
Data rydym yn cael ei gasglu
- Dyddiad geni, enw, cyfeiriad, manylion teulu
- Manylion ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif cyfeirnod personol, e.e. rhif Gwasanaethau Cymdeithasol, rhif Gwasanaeth Iechyd
- Manylion talu ble maent yn berthnasol
- Amgylchiadau cymdeithasol a’ch ffordd o fyw
- Cofnod o gwynion blaenorol
- Adroddiadau diogelu
- Manylion meddygol
- Amgylchiadau personol, e.e. statws llety
- Manylion am iechyd meddwl a chorfforol
- Hil ac ethnigrwydd
- Credoau crefyddol
Cedwir y cofnodion ar bapur neu ar gyfrifiadur. Maent yn cael eu trin gyda chyfrinachedd ac yn cael eu cadw'n ddiogel bob amser.
Mae rhai mathau o wybodaeth yn sensitif, e.e. iechyd, hil, ethnigrwydd, credoau crefyddol. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw gan ein bod yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
Gyda phwy mae eich gwybodaeth yn cael ei rhannu?
Gallwn rannu eich gwybodaeth wrth ddarparu’r Gwasanaethau gyda:
- unrhyw gyd-reolydd data yn nhermau eich data personol;
- chi neu eich cynrychiolydd awdurdodedig;
- eich pwyntiau cyswllt a enwir, h.y. perthynas agosaf, ffrindiau, perthnasau neu ofalwyr;
- eich asiantaeth gofal cartref a enwir;
- unrhyw gontractwyr a enwir, a ddarparwyd gan gyd-reolydd yn nhermau eich data personol;
- eich ymarferwyr iechyd neu'r gwasanaethau brys;
- cynrychiolwyr awdurdod lleol y gellir bod angen cysylltu â hwy yn seiliedig ar unrhyw bryder a godwyd yn nhermau eich lles;
- trydydd parti perthnasol pan fo hynny'n ofynnol dan y gyfraith;
- darparwyr gwasanaeth (yn gweithredu fel prosesyddion data) wedi'u lleoli yn Lloegr a Chymru sy'n darparu gwasanaethau TG a meddalwedd wrth gefnogi'r Gwasanaethau;
- rheolyddion ac awdurdodau eraill wedi'u lleoli yn y Deyrnas Unedig sydd angen adroddiad ar weithgareddau prosesu mewn amgylchiadau penodol; ac
- Rydym angen i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a'i drin yn unol â'r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i’n darparwyr gwasanaeth trydydd parti ddefnyddio eich data personol ar gyfer eu dibenion eu hunain ac rydym yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol ar gyfer dibenion penodol ac yn unol â'n cyfarwyddiadau yn unig.
Trosglwyddiadau Rhyngwladol
Nid ydym yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r DU.
Diogelwch Data
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol yn eu lle er mwyn atal eich data personol rhag cael ei golli'n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu i rywun gael mynediad ato mewn modd anawdurdodedig, ei addasu neu ei ddatgelu. Yn ychwanegol, rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i'r gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill hynny sydd ag angen busnes i wybod. Byddant yn prosesu eich data personol ar ein cyfarwyddiadau ni yn unig ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.
Rydym wedi rhoi gweithdrefnau mewn lle i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri data personol a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys pan fo angen cyfreithiol i ni wneud hynny.
Am ba mor hir rydym yn cadw'r wybodaeth hon?
Byddwn yn cadw eich data personol gyhyd ag sydd angen yn rhesymol i gyflawni'r dibenion y casglwyd y wybodaeth ar eu cyfer yn unig, gan gynnwys er dibenion o ddiwallu unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifeg neu adrodd. Gallwn gadw eich data personol am fwy o amser pe byddai cwyn neu pe byddwn yn credu'n rhesymol bod posibilrwydd o ymgyfreithiad yn nhermau ein perthynas gyda chi.
Er mwyn penderfynu ar y cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd eich data personol, y risg o niwed posib o ddefnydd anawdurdodedig neu ddatgelu eich data personol, y dibenion rydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer ac os oes modd i ni gyflawni'r dibenion hynny mewn ffyrdd eraill, a'r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifeg neu ofynion eraill cymwys.
Y cyfnod cadw ar gyfer data personol a gasglwyd i ddarparu'r Gwasanaeth yw tair blynedd fel rheol. Mae rhagor o wybodaeth am gyfnodau cadw ar gyfer agweddau gwahanol o'ch data personol ar gael yn ein polisi cadw, y gallwch wneud cais i ni amdano drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod i gysylltu â ni.
Eich hawliau dan GDPR:
Dan amgylchiadau penodol, mae gennych hawliau dan gyfreithiau amddiffyn data mewn perthynas â’ch data personol. Mae'r hawliau hyn er mwyn:
- gofyn am fynediad at eich data personol;
- gofyn am gywiriad o'ch data personol;
- gofyn am ddileu eich data personol;
- gwrthwynebu prosesu eich data personol;
- gofyn am gyfyngiad o brosesu eich data personol;
- gofyn am drosglwyddo eich data personol; a
- thynnu caniatâd yn ôl.
Os dymunwch weithredu ar unrhyw un o'r hawliau a nodir uchod, defnyddiwch y manylion cyswllt isod i gysylltu â ni.
Ni fydd angen i chi dalu ffi er mwyn cael mynediad at eich data personol fel rheol (nac i weithredu unrhyw un o'r hawliau eraill). Fodd bynnag, gallwn godi ffi resymol pe byddai eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu'n ormodol. Fel arall, gallwn wrthod cydymffurfio â'ch cais yn yr amgylchiadau hyn.
Gallwn fod angen gwneud cais i chi am wybodaeth benodol er mwyn ein helpu i gadarnhau eich hunaniaeth a sicrhau eich hawliau i gael mynediad at eich data personol (neu i weithredu unrhyw un o'ch hawliau eraill). Mae hwn yn fesur diogelwch i sicrhau na chaiff eich data personol ei ddatgelu i unrhyw berson nad oes hawl ganddynt i'w dderbyn. Gallwn hefyd gysylltu â chi i ofyn am wybodaeth bellach ynghylch eich cais er mwyn cyflymu ein hymateb.
Rydym yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis. Yn achlysurol, gall gymryd mwy o amser na mis pe byddai eich cais yn fwy cymhleth neu pe byddech wedi gwneud nifer o geisiadau. Yn yr achos hwn, byddwn yn eich hysbysu ac yn eich diweddaru.
Am ragor o fanylion am y data personol mae CBSC yn ei ddal a’i ddefnyddio, neu pe byddech yn dymuno gweithredu ar eich hawliau dan GDPR y DU, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Sut i gysylltu â ni?
Am ragor o wybodaeth, neu os dymunwch gael copi o'r ffurflen gais drwy e-bost neu drwy'r post, cysylltwch â ni drwy:
Swyddog Gofal Cwsmer - Gwasanaeth Oedolion
- 01286 679 223
- gcgc@gwynedd.llyw.cymru
- Cyfeiriad: Swyddog Gofal Cwsmer, Gwasanaethau Oedolion, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH