Hysbysiad Preifatrwydd Addysg Dewisol yn y Cartref

Pam mae angen eich gwybodaeth arnom

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i phrosesu er mwyn hwyluso'r broses o rannu gwybodaeth i adnabod plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol rhwng Cyngor Gwynedd/Cyngor Sir Ynys Môn a BCUHB. Y rheswm dros rannu yw sicrhau bod yr awdurdod yn gallu adnabod plant nad ydynt yn hysbys i awdurdod lleol sy'n cael eu haddysgu gartref yn unol â chanllawiau statudol Addysg Ddewision yn y Cartref a gyflwynwyd ym mis Mai 2023. Yn ogystal, gall BCUHB hefyd nodi'r rhai sy'n cael eu haddysgu gartref ac sy'n gymwys ar gyfer darpariaethau nyrsio ysgol fel imiwneiddio a sgrinio.

Cyfiawnhad dros ddefnyddio'ch gwybodaeth

Rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth oherwydd bod gennym ddyletswydd gyfreithiol o dan erthygl 6 (1) (e) o GDPR y DU - mae prosesu'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol gan y rheolydd.

Lle mae angen i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y deddfau canlynol:

· Deddf Addysg 1996 - adran 436A

· Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

· Deddf Plant 1989

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gyflawni tasgau er budd y cyhoedd. Byddwn hefyd yn prosesu data personol at ddibenion swyddogol megis darparu ffurflenni i Lywodraeth Cymru, ac i'n galluogi i gyfrannu at yr ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ei chanllawiau o'r enw ‘Elective Home Education 2023’.

Ni fyddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio.

Rhannu eich gwybodaeth

Byddwn yn rhannu'r wybodaeth gyda'r sefydliadau canlynol:

· Cyngor Gwynedd

· Cyngor Sir Ynys Môn.

· BCUHB

Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i wlad arall.

Am ba hyd yr ydym yn cadw eich gwybodaeth a'ch hawliau

Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw ar gyfer:

· Cofrestr EHE gan Gyngor Gwynedd am 3 blynedd ar ôl i addysg ddod i ben.

· Ac eithrio gwybodaeth mewn perthynas â Datganiad Anghenion Addysgol, cedwir ADY a Lles am gyfnod o 35 mlynedd ar system ADY gan Gyngor Gwynedd.

· Bydd BCUHB yn storio gwybodaeth am SharePoint i'w chadw am gyfnod o 12 mis, bydd yr un wybodaeth hefyd yn cael ei diweddaru ar System Cypris.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data, ewch i

Hysbysiadau Diogelu Data a Preifatrwydd (Gwynedd)

Polisi Diogelu Gwybodaeth a Hysbysiad Preifatrwydd (Ynys Môn)

Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno ar unrhyw adeg i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, awdurdod goruchwylio'r DU ar gyfer materion diogelu data:

Cyfeiriad: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH

Ebost: casework@ico.org.uk Ffôn: 0330 414 6421