Mae’r gyfraith yn rhoi nifer o hawliau i chi:
Gofyn am wybodaeth amdanoch chi eich hun
Mae gennych hawl i ofyn am yr holl wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.
Ond, ni fydd yn bosib i ni roi gwybodaeth i chi os ydi’r cofnod yn cynnwys:
- gwybodaeth gyfrinachol am bobl eraill; neu
- gwybodaeth mae gweithiwr proffesiynol yn credu y byddai’n achosi niwed difrifol i les corfforol neu feddyliol chi neu rywun arall; neu
- oe bai rhoi’r wybodaeth yn ein hatal rhag atal neu ddatrys trosedd
Gwneud cais i weld gwybodaeth amdanoch chi
Ceir hyd at un mis i ateb ceisiadau ond gellir ymestyn hyn i hyd at 2 fis ychwanegol os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.
Gofyn i ni gywiro gwybodaeth rydych yn credu sy’n anghywir
Dylech roi gwybod i ni os ydych yn credu bod gwybodaeth amdanoch yn anghywir.
Mae’n bosib na fyddwn yn medru newid na dileu’r wybodaeth bob amser ond fe wnawn ni gywiro unrhyw beth sy’n ffeithiol anghywir.
Caniateir hyd at un mis i ateb ceisiadau ond gellir ymestyn hyn i hyd at ddeufis ychwanegol os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.
Dileu gwybodaeth (right to be forgotten)
Mewn rhai achosion gallwch ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth, er enghraifft:
- lle nad oes angen eich gwybodaeth bersonol mwyach
- lle rydych wedi tynnu eich caniatâd yn ôl
- lle mae eich gwybodaeth wedi ei defnyddio yn anghyfreithlon
- lle bo gofyn cyfreithiol i ddileu’r wybodaeth
- lle rydych wedi gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth
- lle mae data wedi ei gasglu fel rhan o wasanaeth ar-lein i blant (llwytho app neu wefannau cymdeithasol)
Ni allwn ddileu eich gwybodaeth lle:
- mae’r gyfraith yn dweud bod rhai i ni ei chadw
- mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer mynegiant rhydd
- mae'n cael ei defnyddio i bwrpasau iechyd cyhoeddus sydd er budd y cyhoedd
- mae'n cael ei defnyddio i bwrpas ymchwil neu ystadegol
- mae ei angen ar gyfer hawliadau cyfreithiol.
Gofyn i ni gyfyngu’r defnydd o’ch gwybodaeth bersonol
Mae gennych yr hawl i ofyn am hyn lle:
- rydych wedi darganfod bod gwybodaeth amdanoch yn anghywir ac wedi ein hysbysu
- rydych wedi gwrthwynebu prosesu ac mae angen i ni gael amser i benderfynu os yw ein seiliau yn gorbwyso hawliau’r unigolyn
- nid oes gennym hawl cyfreithiol i ddefnyddio’r wybodaeth ond rydych am i ni gyfyngu’r defnydd yn hytrach na’i dileu’n gyfangwbl
- nid oes gennym reswm i’w gadw ond rydych chi ei angen er mwyn sefydlu, gweithredu neu amddiffyn hawliad cyfreithiol
- ceir hyd at un mis i ateb ceisiadau ond gellir ymestyn hyn i hyd at ddeufis ychwanegol os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.
Symud eich gwybodaeth i ddarparwr arall (data portability)
Mae gennych hawl i ofyn am eich gwybodaeth bersonol mewn fformat cyffredin neu gael ei rhoi i ddarparwr gwasanaeth arall.
Fodd bynnag, gall hyn ond digwydd os ydym yn:
- defnyddio eich gwybodaeth efo’ch caniatâd neu trwy gontract
- mae’r prosesu yn digwydd yn awtomataidd (gan gyfrifiadur)
Mae’n anhebygol y bydd modd arfer yr hawl yma gyda mwyafrif gwasanaethau’r Cyngor.
Gwrthwynebu prosesu gwybodaeth
Mae gennych hawl i wrthwynebu o dan yr amgylchiadau a ganlyn:
- Rydym wedi prosesu eich gwybodaeth ar sail buddion cyfreithlon neu dasg gyhoeddus/awdurdod swyddogol;
- Lle mae marchnata cyhoeddus;
- I brosesu oherwydd ymchwil neu ystadegau
Byddwn yn cydymffurfio efo’r cais oni bai:
- Fod rhesymau cryf, cyfreithlon dros brosesu
- Bod angen sefydlu, gweithredu neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol
Hawliau o ran penderfyniadau awtomataidd a phroffilio
Mae gennych yr hawl i ofyn am esboniad o unrhyw benderfyniadau sydd wedi eu gwneud gan gyfrifiadur (hy penderfyniadau heb unrhyw ymyrraeth gan unigolyn).
Gallwch gwestiynu unrhyw benderfyniadau a wnaed gan gyfrifiadur amdanoch, oni bai fod angen gwneud hyn ar gyfer contract, mae yna ofyn cyfreithiol neu rydych wedi rhoi eich caniatâd i hyn ddigwydd.
Mae'n bosib hefyd i chi wrthwynebu i unrhyw ‘broffilio’, sef pan fo penderfyniadau yn cael eu gwneud amdanoch sy’n seiliedig ar eich gwybodaeth bersonol e.e cyflwr iechyd.
Byddwn yn eich hysbysu os ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch proffilio.