Pwyllgor Polisi Cynllunio Ar y Cyd

Roedd Cyngor Gwynedd yn rhan o Gyd-Bwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd gyda Chyngor Sir Ynys Môn, a ddaeth i ben diwedd mis Mawrth 2023. Mae’n ofynnol i gyfrifon ar wahân gael eu cynhyrchu ar gyfer cyd-bwyllgorau. Gan mai Cyngor Gwynedd oedd yn arwain ar y gwasanaeth cyllid a chyfrifeg i’r Cyd-Bwyllgor hwn, Cyngor Gwynedd oedd felly â’r cyfrifoldeb am gwblhau’r datganiad ariannol, sydd ar ffurf dychweliad blynyddol. 

Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y’i diwygiwyd), mae’r Dychweliad Blynyddol 2022/23 ar gyfer Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi ei gyhoeddi yn dilyn archwiliad.

 

Archif