Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, 2 Mai 2024

Cafodd etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ei chynnal ar 2 Mai, 2024. 

Gweld canlyniadau'r etholiad

 

 

Beth yw rôl y Comisiynydd Heddlu a Throsedd?

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gwneud yn siŵr bod anghenion plismona eu cymunedau yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ddod â chymunedau yn nes at yr heddlu, magu hyder pobl yn y system ac adfer ffydd pobl. 

Mae’r Comisiynydd yn rhoi llais i’r cyhoedd ar y lefel uchaf bosib’, ac yn rhoi’r gallu i’r cyhoedd sicrhau bod eu heddlu yn atebol. 

 

Pwy sy’n sefyll yn yr etholiad? 

Bydd manylion yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad yma ar gael ar wefan Choose My PCC ar ôl 5 Ebrill.

 

Sut ydw i’n pleidleisio yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd?

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio, gwneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy (yn cynnwys gwybodaeth am ID pleidleiswyr) ar gael ar dudalen Sut ydw i'n pleidleisio mewn etholiad?

 

Gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr

Mae arweiniad ac adnoddau helaeth i ymgeiswyr ac asiantwyr ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn cynnwys:

  • yr hyn sydd arnoch angen ei wybod cyn sefyll mewn etholiad
  • gwariant yr ymgeiswyr
  • ymgyrchu 
  • enwebiadau
  • pleidleisiau post
  • diwrnod pleidleisio
  • dilysu a chyfrif
  • ar ôl yr etholiad

 

Dogfennau briffio ymgeiswyr

Mae’r Swyddfa Gartref hefyd wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau briffio yr hoffai ymgeiswyr Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru gyfeirio atynt fel ffynhonnell gyfeirio efallai.

 

Dyddiadau allweddol

  • Sesiwn briffio Ymgeiswyr ac Asiantwyr (cyn yr enwebiadau): Dydd Mawrth, Chwefror 27, 2024
  • Hysbysiad o etholiad: Dydd Llun, Mawrth 25, 2024
  • Dosbarthu papurau enwebu: Dydd Mawrth, Mawrth 26, 2024 – Dydd Gwener, Ebrill 5, 2024 (rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith)
  • Dyddiad cau ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl: Dydd Gwener, Ebrill 5, 2024 (erbyn 4pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer hysbysiad penodiad cynrychiolwyr etholiadol: Dydd Gwener, Ebrill 5, 2024 (erbyn 4pm)
  • Datganiad am y Sawl a Enwebwyd: Dydd Llun, Ebrill 8, 2024 (erbyn 4pm)
  • Sesiwn briffio Ymgeiswyr ac Asiantwyr (ar ôl yr enwebiadau):  Dydd Mawrth, Ebrill 9, 2024
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru: Dydd Mawrth, Ebrill 16, 2024
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn neu addasu ceisiadau pleidlais drwy'r post: Dydd Mercher, Ebrill 17, 2024 (erbyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr: Dydd Mercher, Ebrill 24, 2024 (erbyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau dirprwy: Dydd Mercher, Ebrill 24, 2024 (erbyn 5pm)
  • Cyhoeddi Hysbysiad Pleidlais: Dim hwyrach na dydd Mercher, Ebrill 24, 2024 (erbyn 5pm)
  • Diwrnod y Bleidlais: Dydd Iau, Mai 2, 2024
  • Proses Wirio a Chyfrif Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: Dydd Gwener, Mai 3,2024 (dechrau am 9am) os yw’n etholiad unigol; neu ddydd Sul, Mai 5, 2024 (dechrau am 9am) os yw wedi’i gyfuno ag Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU

 


Gwaith comisiynydd yr heddlu a throseddu fydd sicrhau bod anghenion plismona eu cymunedau’n cael eu cwrdd mor effeithiol â phosibl, gan ddod â chymunedau’n agosach at yr heddlu, meithrin hyder yn y system ac adfer ymddiriedaeth.

Bydd comisiynwyr yr heddlu a throseddu yn rhoi llais i’r cyhoedd ar y lefel uchaf, ac yn rhoi i’r cyhoedd y gallu i sicrhau bod eu heddlu’n atebol.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch swydd comisiynydd yr heddlu a throseddu ynghyd â chyngor os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gael gan y Swyddfa Gartref.

Mae canlyniad etholiad 5 Mai 2016 i'w gael ar wefan y BBC.

Ar 15 Tachwedd 2012 cafodd Winston Roddick ei ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal Heddlu Gogledd Cymru. Gweld canlyniadau'r etholiad