Etholiadau Senedd Cymru Mai 2021

Cynhaliwyd Etholiad Senedd Cymru ar 6 Mai 2021.

 

Mae canlyniadau'r Etholiad i'w gweld ar wefan y BBC: . 
Canlyniadau Etholiad Senedd Cymru 2021
 Canlyniad Arfon 2021

Canlyniad Dwyfor Meirionnydd 2021

 

Datganiadau am y personau a enwebwyd

Rhybuddion etholiad

Gorsafoedd pleidleisio


Mae gan Senedd Cymru 60 o aelodau etholedig.

Bydd gan bob pleidleisiwr mewn etholiadau i Senedd Cymru ddwy bleidlais, a ddefnyddir mewn system o'r enw System Aelodau Ychwanegol.  Mae'r system yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol.

Defnyddir y bleidlais gyntaf i ethol Aelod Senedd etholaethol ar sail y system etholiadol draddodiadol sef 'y cyntaf i'r felin', sy'n debyg i etholiad i Senedd y DU.  Mae etholiadau Senedd Cymru yn rhannu'r un ffiniau ag etholaethau Senedd y DU ac mae hyn yn arwain at ethol 40 o Aelodau Senedd etholaethol.

Defnyddir yr ail bleidlais i ethol Aelodau Senedd rhanbarthol - caiff pedwar Aelod Senedd eu hethol o bob un o'r pum rhanbarth ledled Cymru, sef Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gorllewin De Cymru, Canol De Cymru, a Dwyrain De Cymru.

Drwy ddefnyddio eu hail bleidlais, mae etholwyr yn pleidleisio i ymgeisydd annibynnol neu blaid wleidyddol mewn system 'rhestr gaeedig'. O ran pleidiau gwleidyddol, mae papurau pleidleisio yn dangos y rhestr o enwau ymgeiswyr a enwebwyd gan bob plaid wleidyddol a chaiff ymgeiswyr a etholir yn llwyddiannus eu gosod yn eu priod drefn o frig rhestr y blaid wleidyddol. Mae hyn yn arwain at ethol 20 o Aelodau Seneddol Rhanbarthol.

Mae canlyniadau etholiad 5 Mai 2016 i'w gweld ar wefan y BBC

Mae'r canlyniadau ar gyfer Cymru gyfan ar gael ar wefan y BBC.

Cafodd Refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei gynnal ar 3 Mawrth 2011.