Gweithio mewn etholiad
Mae’r Gwasanaethau Etholiadol yn chwilio am staff i weithio yn y gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod etholiad, ac yn y cyfrif. Os oes gennych chi ddiddordeb, rhowch wybod i ni.
Gweithio mewn Gorsaf Bleidleisio: Mae’n rhaid i staff gorsaf bleidleisio fod ar ddyletswydd o 6:45am tan ychydig ar ôl 10pm ar ddiwrnod etholiad. Rhaid mynychu sesiwn hyfforddiant cyn diwrnod yr etholiad hefyd.
Gweithio yn y Cyfrif: Mae cynorthwywyr cyfrif yn gyfrifol am wirio a chyfrif y pleidleisiau yn y gorsafoedd pleidleisio, a’r holl bleidleisiau post sydd wedi eu derbyn. Gall hyn ddigwydd ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau (10pm ar y diwrnod pleidleisio), neu’r bore canlynol.
Pwy sy’n cael gweithio?
I weithio yn yr etholiadau, mae’n rhaid i chi;
- fod o leiaf 18 oed
- fod â’r hawl i weithio yn y DU (yn unol â'r Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996)
- beidio cael eich cyflogi na pherthyn i ymgeisydd posibl
- beidio gweithio ar ran ymgeisydd na phlaid gwleidyddol i weithio fel staff pleidleisio na chyfrif
- cytuno i weithio mwy na’r oriau gwaith arferol a ddarperir gan y gyfarwyddeb oriau gwaith
Sut i wneud cais?
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni drwy lenwi’r ffurflen gais isod:
Gweithio yn yr etholiad: ffurflen gais ar-lein
Beth fydd yn digwydd ar ôl gwneud cais?
Byddwn yn ystyried profiad, argaeledd a lle mae unigolyn yn byw wrth gynnig swydd.
Yn aml, rydym yn derbyn mwy o geisiadau na sydd yna o swyddi. Os na fydd rhywun yn cael cynnig swydd yna byddant yn cael eu hychwanegu at ein rhestr staffio i lenwi swyddi os oes yna swyddi gwag. Nid yw cael eich penodi i weithio mewn etholiad yn sicrhau gwaith mewn etholiadau yn y dyfodol.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: etholiad@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch Huw Roberts ar 01286679623 os am sgwrs.