Pleidlais bost

Mae pleidlais bost yn golygu bod papur pleidleisio yn cael ei anfon atoch cyn yr etholiad. Bydd angen i chi lenwi'r papur pleidleisio a'i anfon yn ôl i'r cyfeiriad sy'n cael ei nodi cyn yr etholiad.

 

Pwy sy'n gallu gwneud cais am bleidlais bost?

Gall unrhyw un gael pleidlais bost heb roi rheswm. 

 

Sut rydw i'n gwneud cais am bleidlais bost?

Lawrlwythwch ffurflen gais am bleidlais bost, ei hargraffu, ei llenwi a'i phostio i:

Etholiadau
Cyngor Gwynedd
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

 

Pa mor hir mae pleidlais bost yn para?

Gallwch wneud cais ar gyfer un etholiad, ar gyfer pob etholiad hyd at ddyddiad penodol neu am bleidlais bost barhaol (tan rydych chi'n ei ganslo).

 

Pam rydw i angen rhoi fy nyddiad geni a'm llofnod er mwyn cael pleidlais bost?

Mae'n rhaid i bleidleiswyr post yng Nghymru ac yn Lloegr roi eu dyddiad geni a'u llofnod ar y ffurflen gais am bleidlais bost, er mwyn gwella diogelwch pleidleisiau post.
Fel mesur diogelwch, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth hon eto gyda'ch papur pleidleisio. Bydd eich llofnod a dyddiad geni a'ch papur pleidleisio yn cael eu gwahanu cyn cyfri'r pleidleisiau, felly nid yw'n effeithio ar gyfrinachedd eich pleidlais.

Os nad ydych chi'n gallu llofnodi eich ffurflen gais a'ch papur pleidleisio gellir trefnu darpariaeth arbennig. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01766 771000.

 

Pa mor ddiogel yw pleidlais

Mae'n drosedd i lenwi pleidlais bost rhywun arall neu i ddylanwadu ar y ffordd mae rhywun yn llenwi eu pleidlais bost. Dylech gysylltu â'r heddlu os ydych yn amau achos o dwyll.

 

Beth ydw i'n ei wneud os nad ydw i'n derbyn fy mhapur pleidlais bost cyn yr etholiad?

Dylech dderbyn eich papur pleidlais bost o leiaf wythnos cyn yr etholiad. Os nad ydych wedi derbyn eich papur cysylltwch â ni ar 01766 771000.

 

Rydw i wedi colli fy mhapur pleidlais bost. Fedra i gael un arall?

Cysylltwch â ni ar 01766 771000.

 

Os ydw i wedi gwneud cais am bleidlais bost fedra i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod?

Na fedrwch.

Ond, gallwch fynd â'r papur pleidlais bost wedi ei lenwi i unrhyw orsaf bleidleisio yn yr etholaeth rhwng 07:00 a 22:00 ar y diwrnod. Cysylltwch â ni ar 01766 771000 i gael gwybod am orsafoedd pleidleisio.

 

Rydw i wedi gwneud camgymeriad ar fy mhapur pleidlais bost. Beth ydw i'n ei wneud?

Cysylltwch â ni ar 01766 771000.

 

Fedra i ganslo pleidlais bost cyn yr etholiad?

Cysylltwch â ni ar 01766 771000.