Pleidlais trwy ddirprwy

Mae pleidlais trwy ddirprwy yn golygu eich bod yn enwebu rhywun arall i fynd i'r orsaf bleidleisio i fwrw pleidlais ar eich rhan.

Os ydych yn dioddef o salwch neu anabledd hirdymor neu bod gennych ymrwymiadau gwaith, gallwch ofyn am bleidlais absennol barhaol ar gyfer pob etholiad.

I gael pleidlais trwy ddirprwy ar gyfer un etholiad mae'n rhaid i chi roi rheswm penodol, e.e. byddwch ar eich gwyliau neu ni fyddwch gartref oherwydd eich gwaith.

Os ydych yn mynd yn sâl ar fyr rybudd gallwch drefnu pleidlais trwy ddirprwy am resymau meddygol hyd at 17:00 ar ddiwrnod yr etholiad. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01766 771000. 

Lawrlwythwch ffurflen gais am bleidlais trwy ddirprwy, ei hargraffu a'i phostio i'r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen.

Fel arfer, rhaid i chi gyflwyno eich cais o leiaf 6 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Gallwch newid cais rydych wedi ei gyflwyno'n barod hyd at 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Os ydych yn mynd yn sâl ar fyr rybudd gallwch drefnu pleidlais trwy ddirprwy am resymau meddygol hyd at 17:00 ar ddiwrnod yr etholiad. 

Unrhyw un sy'n gymwys i bleidleisio yn yr etholiad. Rhaid iddynt fod:

  • dros 18 mlwydd oed
  • yn ddinesydd y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon neu'r Gymanwlad, neu
  • yn ddinesydd un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yn y Deyrnas Unedig, neu
  • yn ddinesydd Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Diriogaeth Tramor Prydeinig yn byw yn y Deyrnas Unedig

Ni chaiff rhywun sy'n pleidleisio ar eich rhan wneud hynny ar ran mwy na 2 o bobl sydd ddim yn deulu agos. 

Byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio arbennig fydd yn dangos manylion lle dylech chi bleidleisio. Pan fyddwch yn yr orsaf bleidleisio dywedwch wrth y clerc eich bod yn pleidleisio ar ran unigolyn arall. 

Byddwch angen dweud wrth yr unigolyn rydych wedi ei enwebu i bwy rydych chi eisiau iddynt fwrw eu pleidlais ar eich rhan. 

Gallwch fynd i'ch gorsaf bleidleisio a bwrw eich pleidlais os nad yw'r unigolyn sy'n pleidleisio ar eich rhan wedi gwneud hynny o'ch blaen chi.