Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28

Pwrpas y Cynllun hwn yw gosod gweledigaeth a blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2028. Mae’r Cynllun yn dangos pam ein bod am ganolbwyntio ein hegni a’n hadnoddau mewn rhai meysydd. 

Mae’r Cynllun yn cynnwys cyfres o brosiectau ar gyfer y pum mlynedd nesaf o dan saith maes blaenoriaeth: 

  • Gwynedd Yfory – Rhoi’r cychwyn gorau posib mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc

  • Gwynedd Lewyrchus – Cryfhau’r economi a chefnogi trigolion Gwynedd i ennill cyflogau teilwng
  • Gwynedd Glyd – Cefnogi pobl Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymunedau
  • Gwynedd Ofalgar – Cefnogi trigolion Gwynedd i fyw bywydau llawn a diogel yn ein cymunedau
  • Gwynedd Gymraeg – Sicrhau ein bod yn rhoi pob cyfle posib i’n trigolion ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned
  • Gwynedd Werdd – Gwarchod harddwch naturiol y sir, ac ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng newid hinsawdd
  • Gwynedd Effeithlon – Rhoi trigolion Gwynedd yn gyntaf gan eu trin yn deg a sicrhau fod y Cyngor yn perfformio’n effeithiol ac effeithlon.  

Cafodd y Cynllun ei fabwysiadu gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2023, ac er ei fod yn Gynllun 5 mlynedd fe fydd yn ddogfen fyw fydd yn datblygu dros amser. Byddwn yn ei adolygu’n flynyddol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i wneud y pethau sy’n bwysig i bobl Gwynedd. 

Gweld Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 


Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff gyhoeddus yng Nghymru i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.  Fel rhan o’r broses o lunio Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 rydym hefyd wedi adolygu ein hamcanion llesiant.   

Datganiad Llesiant Cyngor Gwynedd 2023/24 

 


Cyhoeddiadau blaenorol:


Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023 (2022/23)


Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023 (2021/22)


Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023 (2020/21) 


Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023 (2019/20) 

Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023 (2018/19)

Cynllun Strategol 2017/18

Cynllun Strategol 2016/17

Cynllun Strategol 2015/16

Cynllun Strategol 2014/15

 

Rhagor o wybodaeth 

  • cynlluncyngor@gwynedd.llyw.cymru
  • 01766 771 000 
  • Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor, Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, Swyddfa’r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH