Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28

Pwrpas y Cynllun hwn yw gosod gweledigaeth a blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2028. Mae’r Cynllun yn dangos pam ein bod am ganolbwyntio ein hegni a’n hadnoddau mewn rhai meysydd. 
Mae’r Cynllun yn cynnwys cyfres o brosiectau ar gyfer y pum mlynedd nesaf o dan saith maes blaenoriaeth.
gwynedd yfory llwyd

Gwynedd Yfory

Rhoi’r cychwyn gorau posib mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc.
Gwynedd Yfory: Gweld manylion 
lewyrchus llwyd

Gwynedd Lewyrchus

Cryfhau’r economi a chefnogi trigolion Gwynedd i ennill cyflogau teilwng.
Gwynedd Lewyrchus: Gweld manylion
glyd llwyd

Gwynedd Glyd

Cefnogi pobl Gwynedd i fyw mewn cartrefi addas a fforddiadwy yn eu cymunedau.
Gwynedd Glyd: Gweld manylion
ofalgar llwyd

Gwynedd Ofalgar

Cefnogi trigolion Gwynedd i fyw bywydau llawn a diogel yn ein cymunedau.
Gwynedd Ofalgar: Gweld manylion
gymraeg llwyd

Gwynedd Gymraeg

Sicrhau ein bod yn rhoi pob cyfle posib i’n trigolion ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned.
Gwynedd Gymraeg: Gweld manylion
werdd llwyd

Gwynedd Werdd

Gwarchod harddwch naturiol y sir, ac ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng newid hinsawdd.
Gwynedd Werdd: Gweld manylion
gwynedd effeithlon llwyd

Gwynedd Effeithlon

Rhoi trigolion Gwynedd yn gyntaf gan eu trin yn deg a sicrhau fod y Cyngor yn perfformio’n effeithiol ac effeithlon.
Gwynedd Effeithlon: Gweld manylion



Fersiwn pdf o'r Cynllun

Cliciwch ar y linc isod i lawrlwytho fersiwn pdf o'r Cynllun:

Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 (fersiwn pdf)

Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28: Adolygiad 2024/25


Fideo

Fideo fer yn cyflwyno Cynllun Cyngor Gwynedd:

Mae’r wybodaeth yn y fideo hefyd ar gael ar ffurf Trawsgrifiad Testun gyda disgrifiad o’r delweddau.

 

Datganiad llesiant

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff gyhoeddus yng Nghymru i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.  Fel rhan o’r broses o lunio Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28 rydym hefyd wedi adolygu ein hamcanion llesiant.   

Datganiad Llesiant Cyngor Gwynedd 2023/24 


Cyhoeddiadau blaenorol

 

Rhagor o wybodaeth