Partneriaeth Natur Leol Gwynedd

Mae Partneriaeth Natur Leol Gwynedd yn fenter newydd a ddechreuodd ym mis Ionawr 2020 i helpu atal colli bioamrywiaeth. Adeiladwyd y Bartneriaeth ar seiliau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol blaenorol Gwynedd (Natur Gwynedd) a dyma yw ymateb Gwynedd i Gynllun Gweithredu Adfer Natur Llywodraeth Cymru. 

 

Mae'r aelodau presennol yn cynnwys:

  • Cofnod (Y Ganolfan Cofnodion Amgylcheddol Leol)
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru
  • Parc Cenedlaethol Eryri PCLl
  • Ymgynghoriaeth Gwynedd
  • Cyfeillion Borth-y-Gest
  • Undeb Amaethwyr Cymru
  • Partneriaeth Dyffryn Gwyrdd
  • Partneriaeth Ogwen
  • Y Dref Werdd
  • Cadw Cymru’n Daclus
  • Plantlife
  • Ffermydd a gerddi cymdeithasol
  • ACA PLAS
  • AHNE
  • Llais y Goedwig



Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwynedd (CGAN) wrthi'n cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei gyhoeddi yn 2022.  Ei brif amcan yw cryfhau'r cysylltiadau rhwng cymunedau a natur, a gwella gwerth natur ar draws y Sir. 

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • Godi ymwybyddiaeth am y cynefinoedd a'r rhywogaethau pwysig, y dymunir eu rhestru yn CGAN Gwynedd  
  • Datblygu a hwyluso prosiectau sy'n hyrwyddo ac yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng cymunedau ac ysgolion gyda natur. 
  • Gwarchod y cynefinoedd a'r rhywogaethau pwysig a restrir yn CGAN Gwynedd drwy fesurau ymarferol fel arferion rheoli ac adfer gwell.   
  • Adnabod a mynd i'r afael â'r pwysau allweddol sy'n effeithio ar rywogaethau a chynefinoedd yn enwedig Newid Hinsawdd a newid mewn defnydd Tir.
  • Creu cysylltiadau gyda chynefinoedd a chysylltedd i wella gwytnwch rhywogaethau a chynefinoedd.

Byddwn yn cymryd rhan mewn prosiectau sydd eisoes yn bodoli, sy'n cysylltu cymunedau gyda natur a chodi ymwybyddiaeth drwy greu a chymryd rhan mewn digwyddiadau a rhoi cyflwyniadau mewn ysgolion. 

Yn ychwanegol, byddwn yn creu prosiectau sy'n canolbwyntio yn benodol ar wella gwerth bioamrywiaeth ar draws yr holl gynefinoedd yng Ngwynedd.  Drwy'r prosiectau hyn, bydd y bartneriaeth yn datblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur fydd o fudd i gymunedau a natur.  Bydd y blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Adfer Natur wedyn yn bwydo i wella llesiant cymunedau Gwynedd drwy fioamrywiaeth.

Ceir cyfoeth o fywyd gwyllt ac amrywiaeth helaeth o gynefinoedd yng Ngwynedd. Mae lonydd cul a chloddiau nodedig yn nodweddiadol o arfordir hardd Pen Llŷn, ynghyd â’r clogwyni meddal a’r traethau tywod. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae ucheldiroedd amlwg Eryri, sy'n ein harwain i lawr at ddyffrynnoedd glas a gweddillion coetiroedd hynafol. Mae ein bywyd morol yn cynnwys amrywiaeth gyfoethog o anifeiliaid, ynghyd â chwrelau meddal, milflodau’r môr, pysgod, octopysau a chrancod sy'n byw ar y creigresi a gwely'r môr o amgylch ein harfordir. Mae llain arfordirol a chwareli llechi segur Gwynedd yn gynefinoedd i’r frân goesgoch, y rhywogaeth brinnaf o frân sy'n magu ym Mhrydain. Mae Pen Llŷn, lle credir bod niferoedd mincod yn gymharol isel, yn ardal bwysig i lygod pengrwn y dŵr. Mae naw rhywogaeth o ystlumod yng Ngwynedd, gan gynnwys ystlumod pedol lleiaf prin, sydd wedi diflannu o’r rhan fwyaf o’r cadwyni gogleddol ym Mhrydain.

Mae amryw o rywogaethau a chynefinoedd sydd yn unigryw i'r sir hon. Maent yn cynnwys:
  • y Frân Goesgoch
  • Llygoden Bengron y Dŵr
  • Brith y Gors                       
  • Cerddinen Wen         
  • Llyriad-y-dŵr Arnofiol
  • Ystlum Pedol Lleiaf
  • Aderyn Drycin Manaw
  • Cen Gwallt Euraidd                             
  • Dyfrgi Ewropeaidd yr afon
  • Saerwenynen  

Yn gynnar yn 2020 creodd Lywodraeth Cymru gronfa Llefydd Lleol i Natur i ymateb mesuriadau gwylaidd Prif Weinidog Cymru. Rhannwyd yr gronfa rhwng awdurdodau lleol, Loteri Genedlaethol a Cadwch Cymru’n Daclus. Mae mesuriadau Llefydd Lleol i Natur yn gynnwys:

  • Cynyddu plannu blodau gwyllt
  • Adfer a creu perllan cymunedol
  • Cynyddu plannu coed yn lleol gan gynnwys coed stryd, perllannau cymunedol a coedlannau bach.
  • Cynyddu mynediad cyhoeddus i dwr yfed am ddim
  • Lleihau defnydd o plaladdwyr
  • Cynyddu gweirgloddiau blodau gwyllt a’r tir oleddf

Prosiectau yn 2020/21 yn gynnwys:

  • Adferiad o adeiladau ystlumiaid a gynyddu nythod adar yn y gwarchodfa natur ynghlwm gyda Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
  • Adfer cynefin Gwarchodfa natur Parc y Borth gan gynnwys greu pwll, plannu perllan cymunedol, gwaredu celyn a plannu gweirglodd blodau gwyllt yn gweithio gyda Ffrindiau Borth y Gest.
  • Prynu Muthing flail i torri a casglu glaswellt o ochrau lonydd i helpu ymsefydlu gweirglodd blodau gwyllt a’r hyd y lonydd.

Gyda llwyddiant o’r cynllun  Llefydd Lleol Natur, mae’r cynllun wedi gael ei cario ymlaen i 2021/22. Yng Ngwynedd, mae gan y ni  prosiect fawr, o’r enw “ Gwyrddio Gwynedd ôl-diwydiannol”, gan gynnwys 6 prosiect yn ateb o leiaf un o’r mesuriadau gwylaidd. 

 

Sut fedra i helpu Natur?

Dyma’r amser perffaith i ddechrau helpu natur! Man cychwyn da fyddai mynd i wefan: Gwneud Lle i Fyd Natur - Partneriaeth Bioamrywiath Cymru. Fe welwch chi lu o awgrymiadau ar sut y gall unigolion, grwpiau a sefydliadau wneud lle i natur a helpu i ddarparu cynefinoedd hanfodol i blanhigion ac anifeiliaid. 

Gallwch hefyd gysylltu â'n cydlynydd PNL i weld os y medr eich rhoi mewn cysylltiad gydag unrhyw fudiadau, grwpiau cymunedol neu grwpiau bywyd gwyllt yn eich ardal. 

Hefyd, gallwch gysylltu â'r cydlynydd PNL i drefnu cadw offer ar gyfer eich prosiect am ddiwrnod neu wythnos -yn rhad ac am ddim!

ANGEN MANYLION CYSWLLT YMA