Polisi Gosod Tai Cyffredin
Mae Cyngor Gwynedd, Adra, Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru wedi sefydlu Partneriaeth Cofrestr Tai Gyffredin Gwynedd.
Pwrpas y Bartneriaeth yw datblygu cofrestr tai gyffredin gyda chynllun dyrannu cyffredin cysylltiol, yn cael ei chefnogi drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor mwy effeithiol ac amserol i ymgeiswyr.
Bydd y dull hwn yn golygu:
- un man i gael mynediad at dai cymdeithasol yng Ngwynedd
- un cynllun dyrannu hawdd i’w ddeall ar gyfer pob gosodiad yng Ngwynedd
- ymgeiswyr yn gallu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth am yr opsiynau tai sydd ar gael iddynt.
Gweld y polisi Gosod Tai Cyffredin