Egwyddorion Cyffredinol
- Y Gymraeg yw prif iaith weithredol y Cyngor, sydd yn golygu mai’r Gymraeg gaiff flaenoriaeth wrth ysgrifennu adroddiadau a dogfennau mewnol.
- Bydd holl ddogfennau cyhoeddus y Cyngor - sy’n cynnwys adroddiadau, cynlluniau, posteri, ffurflenni a deunyddiau esboniadol, hysbysiadau i’r Wasg, hysbysiadau cyhoeddus a dogfennau ymgynghori - ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
- Bydd unrhyw ddogfennau swyddogol sydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ar gael yn y ddwy iaith, gyda’r gallu i symud yn rhwydd o un fersiwn i’r llall.
- Ni fydd y Cyngor yn cyhoeddi/rhannu dogfennau uniaith Saesneg, ar bapur nac ar wefan y Cyngor, oni bai bod fersiwn Gymraeg hefyd ar gael ar yr un pryd.
- Gwneir pob ymdrech i greu dogfennau byr yn ddwyieithog, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gweld y Gymraeg ar bob cyfle posib.
- Bydd y Cyngor yn cyfeirio at ei hun yn ôl ei enw Cymraeg, Cyngor Gwynedd, mewn deunyddiau ysgrifenedig ac yn arddel enwau Cymraeg ar leoliadau a nodweddion yn eu holl gyhoeddiadau a deunyddiau ysgrifenedig cyhoeddus.
Close
4.1 Bydd swyddogion yn sicrhau bod unrhyw ddeunydd ysgrifenedig sydd wedi ei fwriadu ar gyfer y cyhoedd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae hyn yn cynnwys deunydd ysgrifenedig wedi ei argraffu a deunydd a gaiff ei rannu yn electronig.
4.2 Bydd swyddogion yn sicrhau bod unrhyw ddogfen Saesneg sydd yn cael ei gyhoeddi/ryddhau yn cynnwys datganiad sydd yn nodi yn glir bod fersiwn Gymraeg o'r ddogfen hefyd ar gael.
4.3 Bydd unrhyw daflenni sy’n cael eu hanfon i’r trigolion yn ddwyieithog ac yn cael eu rhoi mewn amlenni mewn modd sy’n sicrhau mai’r Gymraeg sydd i’w gweld gyntaf wrth agor.
4.4 Os bydd Swyddogion yn rhannu deunydd ysgrifenedig gan sefydliadau eraill (naill ai ar ffurf dogfennau, neu drwy gyfeirio at ffynonellau eraill fel gwefannau) disgwylir i’r swyddogion wneud pob ymdrech i sicrhau bod y deunydd hwnnw ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Os bydd dogfennau yn cael eu rhannu fel rhan o waith ymgynghori, ac nad yw’r sefydliad allanol yn gallu darparu copïau dwyieithog, rhaid gwneud trefniadau i’w cyfieithu yn fewnol cyn rhannu’r dogfennau yn gyhoeddus.
4.5 Dylai swyddogion sicrhau bod unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn safonol ei ffurf a'i arddull, yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac na fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol o ran ffurf, maint, ansawdd ac eglurder. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod unrhyw ddeunydd yn ddealladwy ac yn eglur i'r cyhoedd, ac yn dilyn egwyddorion Cymraeg Clir / Plain English.
4.6 Dylid rhoi’r flaenoriaeth i’r Gymraeg mewn unrhyw ddeunydd ysgrifenedig cyhoeddus. Mae hynny yn golygu y bydd y testun Cymraeg yn cael ei osod naill ai uwchben neu ar y chwith i’r testun Saesneg.
4.7 Dylid ceisio dylunio unrhyw daflenni, pamffledi, a dogfennau fydd yn cael eu rhannu yn gyhoeddus fel fersiynau printiedig mewn ffordd fydd yn sicrhau bod y ddwy iaith yn ymddangos efo’i gilydd. Gall hyn fod yn destun dwyieithog ar yr un ddalen neu yn ddogfen gyda’r ddwy iaith wedi eu hargraffu gefn wrth gefn.
4.8 Pe byddai rhaid i'r Cyngor, am unrhyw reswm, (e.e. maint dogfen, cyhoeddi ar y wefan) gyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd, a bydd y fersiwn Saesneg yn nodi yn glir bod fersiwn Gymraeg ar gael er mwyn annog trigolion i fynd at y fersiwn Gymraeg.
4.9 Dylid sicrhau bod unrhyw ddogfennau sydd yn cael eu hargraffu fel fersiynau papur Cymraeg a Saesneg ar wahân ar gael gyda'i gilydd ac mai’r fersiwn Gymraeg sydd yn cael ei gynnig gyntaf i’r cyhoedd.
4.10 Bydd unrhyw daflenni gwybodaeth neu bosteri a gaiff eu gosod mewn unrhyw fan cyhoeddus sydd dan ofal y Cyngor yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn gyntaf, a’r Saesneg yn dilyn oddi tannodd.
4.11 Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod unrhyw hysbysiadau neu bosteri gan gyrff a chwmnïau eraill fydd yn cael eu harddangos yn eiddo ac adeiladau’r Cyngor hefyd yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. Ni chaniateir arddangos posteri uniaith Saesneg yn adeiladau’r Cyngor.
4.12 Bydd pob datganiad i'r wasg neu i'r cyfryngau gan y Cyngor yn ddwyieithog.
4.13 Bydd ymateb i ymholiadau gan y wasg neu'r cyfryngau yn cael ei anfon yn Gymraeg neu'n Saesneg, yn ddibynnol ar iaith y gohebydd perthnasol.
4.14 Bydd yr holl ddeunydd a ddefnyddir i godi ymwybyddiaeth, i farchnata, i hyrwyddo
ac i ddenu buddsoddiad i'r ardal yn nodi a chydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg.
4.15 Bydd unrhyw ymgyrchoedd marchnata a gynhelir gan neu ar ran y Cyngor yn rhai cwbl ddwyieithog, gan gynnwys arddangosfeydd, stondinau gwybodaeth a chynadleddau. Golyga hyn y bydd unrhyw waith hysbysebu, cyhoeddi neu ymchwil yn gwbl ddwyieithog.
4.16 Caniateir yr eithriadau canlynol i’r cymalau uchod:
a) Dogfen sydd yn ymwneud yn benodol gyda gweithgarwch sydd â’i brif fwriad i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg, a/neu sydd yn ymwneud â digwyddiad sydd yn cefnogi iaith a diwylliant yr ardal. Gall hyn gynnwys digwyddiadau megis gweithgareddau’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol neu weithgareddau gan bartneriaid hyrwyddo’r Gymraeg.
b) Datganiadau neu hysbysebion ar gyfer rhaglenni radio neu deledu ar sianeli Cymraeg eu hiaith.
c) Hysbysiadau yn y wasg Gymraeg, fydd yn ymddangos un uniaith Gymraeg.
4.17 Disgwylir i unrhyw ddogfennau neu ddatganiadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynulleidfa y tu allan i Gymru, neu hysbysebion ar gyfer sianeli radio a theledu y tu allan i Gymru gynnwys rhywfaint o Gymraeg. Fel ymgais i hyrwyddo’r iaith fel rhan greiddiol o hunaniaeth a diwylliant y sir, ni ddylid cyhoeddi deunyddiau yn gyfan gwbl yn Saesneg yn unig.
4.18 Disgwylir i hysbysebion a chyhoeddusrwydd ar ran trydydd parti a fo'n ymddangos ar eiddo, tir neu adeilad y Cyngor ddilyn y canllawiau uchod. Lle bu cytundeb rhwng y Cyngor a pharti arall ar gyfer defnyddio eiddo, tir neu adeilad y Cyngor, bydd amod i'r perwyl hwn yn y cytundeb, yn cynnwys cyhoeddusrwydd cysylltiedig (e.e. posteri, hysbysebion).