Y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd

Dyma amlinelliad o'r camau allweddol a#r dogfennau sy'n rhan o'r gwaith paratoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. 

Manylion

Dyma’r cam cyntaf yn y broses o baratoi’r CDLl ar y Cyd. Mae’r Cytundeb Cyflawni wedi ei rannu’n ddwy ran - yr amserlen a’r Datganiad o Gyfranogiad Cymunedol. Strategaeth i sicrhau fod aelodau o'r cyhoedd ynghyd a budd-deiliaid allweddol yn rhan o'r broses paratoi'r Cynllun yw'r Datganiad. 


Statws

Fe gafodd y Cytundeb Cyflawni cyfredol ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd ar 3 Mawrth 2016 a gan Gyngor Sir Ynys Mon ar 10 Mawrth 2016 . Dyma gopi o lythyr Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r amserlen diwygiedig

Manylion

Mae’n hanfodol fod y Cynllun, yn nhermau ei bolisïau a’i gynigion wedi ei selio ar sail dystiolaeth gadarn a chredadwy a bod yna ystyriaeth wedi ei roddi i bolisïau, cynlluniau a strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd casgliadau'r gwaith casglu gwybodaeth yn cael ei gofnodi mewn cyfres o Bapurau Testun a Chefndir. Bydd y Casglu gwybodaeth gefndirol yn cael eu diweddaru'n rheolaidd.

 

Manylion

Elfen allweddol wrth ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol yw adnabod safleoedd posib ar gyfer amrediad o ddefnydd tir gan gynnwys tai, cyflogaeth a defnyddiau eraill megis cymunedol a hamdden.  Mae hefyd yn bwysig i adnabod safleoedd sydd angen eu gwarchod oherwydd eu tirlun arbennig, man agored neu werth cadwraeth.  

Statws

Agorwyd y Gofrestr Safleoedd Posib ar y 11 Hydref 2011. Rhoddwyd gwahoddiad ffurfiol i ddatblygwyr, tirfeddianwyr, grwpiau cymunedol ac aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno safleoedd a allai gael eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd (CDLl ar y cyd). Mae'r cyfle i gynnig Safle Posib Hwyr yn cau ar 17eg o Ebrill 2014. Ni dderbynnir unrhyw gynigion hwyr wedi'r dyddiad yma. Mae’r Gofrestr wedi ei rhannu fesul Awdurdod ac wedi ei isrannu fesul Cyngor Cymuned.  

Manylion

Yn unol â’r Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gofodol (2004) mae’n ofynnol i Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd sydd wrthi’n cael eu datblygu, fod yn destun Arfarniad Cynaladwyedd (AC). Mae AC yn ceisio sicrhau fod polisïau a chynigion y CDLl yn gyson gydag egwyddorion datblygu cynaliadwy.

Statws

Proses cyfredol

Manylion

Cyhoeddwyd fersiwn cyflawn ynghyd â llawlyfr o’r ddogfen yn ystod cyfnod o ymgynghori cyhoeddus yn 2011/2012. Mae’r ddogfen yn adnabod rhai o’r materion allweddol sydd angen i’r Cynllun ymdrin ag ef, drafftio gweledigaeth posib, adnabod amcanion strategol posib, awgrymu twf strategol posib ac opsiynau dosbarthu. 


Statws

Cwblhawyd 2011/2012

Manylion

Mae’r Rhybudd Swyddogol yn cadarnhau cyhoeddwyd y ddogfen Hoff Strategaeth ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'r ddogfen hon yn cynnig amlinelliad o'r weledigaeth, amcanion, polisiau strategol ac hoff strategaeth y Cynllun. Nid yw'n cynnwys polisiau manwl a dynodiadau safle penodol.  

Ochr yn ochr â'r Hoff Strategaeth gofynnwyd am sylwadau ar yr Asesiad Cynaliadwyedd (sy'n cynnwys yr Arfarniad Amgylcheddol Strategol). Cafodd copi o Adroddiad Sgrinio o dan Reoliadau Asesiad Cynefinoedd ei chyhoeddi hefyd.  


Statws

Cyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi dod i ben ar 27 Mehefin 2013

Manylion

Fersiwn Drafft o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yw’r Cynllun Adnau.

Mae’n nodi polisi cynllunio arfaethedig Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn hyd at 2026, sy’n nodi beth y gellir ei adeiladu a lle y gellir ei adeiladu. Ar sail yr holl wybodaeth a gasglwyd a’r ymatebion i’r Hoff Strategaeth mae’r Cynllun yn nodi’r canlynol:

  • gweledigaeth, amcanion a strategaeth,
  • polisïau strategol a manwl i hybu a rheoli datblygiad,
  • dynodiadau tir ar gyfer tai, safleoedd cyflogaeth a defnydd arall,
  • polisïau i ddiogelu ardaloedd sensitif,
  • mapiau sy’n dangos y cynigion a’r cyfyngiadau.

Bu'r Cynllun Adnau yn destun ymgynghoriad cyhoeddus tan 17:00 ar 31 Mawrth 2015. Ni fyddwn yn derbyn rhagor o sylwadau am y Cynllun Adnau, yr Asesiad Cynaliadwyedd na’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Rydym wrthi’n ystyried y sylwadau ar hyn o bryd a bydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn gwneud penderfyniad amdanynt ym mis Ionawr 2016. Gallwch weld crynodeb o’r sylwadau trwy fynd i'r Adroddiad Sylwadau am y Cynllun Adnau yn y rhestr ddogfennau isod neu trwy fynd i'r Pwyntiau cyfeirio yn y copi rhyngweithiol o’r Cynllun Adnau

Gallwch hefyd weld yr Adroddiad Sylwadau am y Cynllun Adnau yn y lleoliadau canlynol:
llyfrgelloedd cyhoeddus; Siop Gwynedd; Swyddfa’r Gwasanaeth Cynllunio, Llangefni; Swyddfa’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, Bangor.

Mae manylion yn egluro sut i weld / cael copi caled o’r sylwadau unigol yn yr Adroddiad Sylwadau am y Cynllun Adnau.

Nodwch mai adroddiad crynodeb yn unig yw'r Adroddiad Sylwadau am y Cynllun Adnau. Trwy gyhoeddi'r adroddiad nid yw'r Cyngor yn cefnogi'r sylwadau yn yr adroddiad, nac unrhyw 'safleoedd amgen' y cyfeirir atynt yn y sylwadau; maent yn cynrychioli barn yr unigolion neu'r sefydliadau a'u cyflwynwyd yn unig. Pwrpas yr adroddiad yw ei ddarllen yn unig - ni ddylid gwneud sylwadau arno.

Er gwybodaeth yn unig, gallwch weld:

Paratowyd amrywiaeth o Bapurau Testun a Phapurau Cefndir i roi rhagor o wybodaeth ac egluro’r dull gweithredu a fabwysiadwyd yn y Cynllun Adnau o ran y pynciau a’r materion gwahanol sy’n effeithio ar ardal y Cynllun - gellir gweld y dogfennau yma.

Paratowyd amrywiaeth o asesiadau hefyd i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei ddatblygu mewn modd sy’n gynaliadwy, ac sy’n rhoi sylw i’w effaith ar yr iaith Gymraeg, cynefinoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, iechyd cymunedau a grwpiau bregus. Gellir gweld adroddiadau’r asesiadau yma.

 

Statws

Cyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi dod i ben ar 31 Mawrth 2015

Ar ôl ystyried y sylwadau a gafodd eu cyflwyno am y Cynllun Adnau yn ofalus credir bod sail i gynnig Newidiadau â Ffocws i’r Cynllun Adnau.

Mae’r rhan yma yn cynnwys yr holl ddogfennau sy’n berthnasol i’r ymgynghoriad cyhoeddus am y Gofrestr o Newidiadau â Ffocws i’r Cynllun Adnau.

Cyflwyno syniadau

Dylid anfon sylwadau am y Newidiadau â Ffocws yn ysgrifenedig yn unig.

E-bost: polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru

Cyfeiriad: Uned Polisi cynllunio ar y Cyd, Llawr 1af Swyddfeydd Cyngor Dinas Bangor, Ffordd Gwynedd, Bangor, Gwynedd LL57 1DT

Ni fydd sylwadau a dderbynnir ar ôl y 4:30 ar 13 Ebrill 2016 yn cael eu cofrestru.

 

 Dogfennau perthnasol

Manylion

Ar 30 Mehefin 2017, derbyniwyd y Cyngor Adroddiad yr Arolygydd ar yr Archwiliad i mewn i Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Daeth yr Arolygwyr i'r casgliad, yn amodol ar y newidiadau a nodir yn Atodiad A a B o'r Adroddiad, bod Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 yn gadarn. Mae Adroddiad yr Arolygydd ar gael i'w gweld isod. Mae cyhoeddi'r Adroddiad yn dod a’r broses Archwiliad i ben.

Mae Adroddiad yr Arolygydd yn rhwymol a bydd y Cyngor bellach yn ymgorffori’r newidiadau a bennir. Fel sy'n ofynnol gan Reoliadau Cynllun Datblygu Lleol (2005) (fel y'i diwygiwyd), bydd y Cyngor yn gwneud trefniadau i fabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd o fewn 8 wythnos o dderbyn yr Adroddiad.

Atodiad A – Cofrestr o Newidiadau Materion sy’n Codi (NMC)

 

Atodiad BCofrestr Newidiadau Materion sy’n Codi - yr Arolygydd (INMC)

 

Mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011 – 2026

Ar 28 Gorffennaf 2017 penderfynodd Cyngor Gwynedd i fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Penderfynodd Cyngor Sir Ynys Môn i fabwysiadu'r Cynllun ar 31 Gorffennaf 2017. Felly, mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl ar y cyd) ar 31 Gorffennaf 2017. Daeth yn weithredol ar ddyddiad ei fabwysiadu ac mae’n disodli’r cynlluniau canlynol a pholisïau dros dro:

CDLL
Ynys MônArdal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd 
  • Cynllun Fframwaith Gwynedd (1993)
  • Cynllun Lleol Ynys Môn (1996)
  • Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn (a stopiwyd) (2005)
  • Polisi Cynllunio Dros Dro: Safleoedd Mawr (2011)
  • Polisi Cynllunio Dros Dro: Clystyrau Gwledig (2011)
  •  Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd (2009)

Y CDLl ar y Cyd fydd y sail ar gyfer penderfyniadau am gynllunio defnydd tir yn ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd ac Ynys Môn ac fe gaiff ei ddefnyddio gan y Cynghorau i lywio a rheoli cynigion datblygu.

Dogfennau mabwysiadu’r CDLl ar y Cyd:

  1. Hysbysiad Cyhoeddus
  2. Datganiad Mabwysiadu

Dogfennau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a fabwysiadwyd:

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a fabwysiadwyd – Datganiad Ysgrifenedig

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a fabwysiadwyd - Mapiau Mewnosod 

Gwynedd

Môn

 

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a fabwysiadwyd - Mapiau Cynigion

 

Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a fabwysiadwyd - Mapiau Cyfyngiadau 

Adroddiad terfynol Arfarniad o Gynaliadwyedd/ Asesiad Amgylcheddol Strategol

Adroddiad terfynol Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd


Gellir gweld copïau caled o'r CDLl ar y cyd sydd wedi cael ei fabwysiadu, datganiad mabwysiadu, adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a'r Adroddiad Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd mewn llyfrgelloedd cyhoeddus yng Ngwynedd ac Ynys Môn a phrif swyddfeydd y Cyngor.

 

Gwybodaeth Bellach

E-bost:polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru

Ffôn: 01286 685003 neu 01766 771000 a gofyn i siarad gyda Swyddog Polisi Cynllunio.

Yn unol ag isadran 76 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 mae’n ofynnol ar Gynghorau i gynhyrchu Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) am eu CDLl ar y Cyd ar ôl ei fabwysiadu a chadw llygad rheolaidd ar bob mater y disgwylir iddo effeithio ar ddatblygiad ardal y CDLl ar y Cyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheoliadau a chanllawiau ar beth ddylid ei gynnwys mewn AMB. Bydd yr AMB yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefannau’r Cynghorau erbyn 31 Hydref bob blwyddyn (yn dilyn  mabwysiadu’r CDLl ar y Cyd, cyn belled bod blwyddyn ariannol gyfan (1 Ebrill - 31 Mawrth) wedi mynd heibio ers dyddiad mabwysiadu’r CDLl ar y Cyd). Mae'r AMB cyntaf hwn yn cwmpasu'r cyfnod o ddyddiad  mabwysiadu'r CDLl ar y Cyd (31 Gorffennaf 2017) tan 31 Mawrth 2019. 

Adroddiad Monitro Blynyddol 1 Awst 2017 i 31 Mawrth 2019


Newyddlenni

Bydd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn cyhoeddi cyfres o Newyddlenni a fydd o gymorth wrth gyflwyno gwybodaeth i grwpiau diddordeb mewn perthynas â'r cynnydd sydd yn cael ei wneud o ran y gwaith o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

Cliciwch ar yr atodiadau isod i weld y newyddlenni diweddaraf:

Newyddlen Awst 2011 (Rhifyn 1)

Newyddlen Awst 2012 (Rhifyn 2)

Newyddlen Ebrill 2013 (Rhifyn 3)

Newyddlen Awst 2014 (Rhifyn 4)

Newyddlen Gorffennaf 2015 (Rhifyn 5)