Cyfamod cymunedol y Lluoedd Arfog

Mae Cyngor Gwynedd wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog er mwyn sicrhau cydraddoldeb i aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd sy’n byw yng Ngwynedd.

Mae’r ddogfen hon yn berthnasol i’r rhai sy’n gwasanaethau, cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog, eu teuluoedd, ynghyd â gweddwon a phlant unrhyw un a laddwyd tra’n gwasanaethu dros y wald.


Y Lleng Brydeinig Brenhinol
Mae’r Lleng yn darparu cymorth gydol oes i aelodau’r Lluoedd Arfog, y Milwyr Wrth Gefn, y cyn filwyr a’u teuluoedd trwy gydol y flwyddyn.  Er bod y Lleng yn sefydliad cenedlaethol, gweithiwn mewn cymunedau lleol ledled Cymru a’r DU, gan gyflwyno gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth lle mae eu hangen fwyaf.