Cefnogaeth i waith
Mae Gwaith Gwynedd yma i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod sydd:
- mewn tlodi neu
- mewn perygl o dlodi ac
- eisiau help i gael gwaith neu
- symud ymlaen yn y gwaith.
Mae Gwaith Gwynedd yn cynnig:
- cyngor ac arweiniad cyfeillgar,
- cefnogaeth un i un, a
- mentora i helpu unigolion i ddatblygu eu sgiliau,
- dod o hyd i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth.
Os ydych yn chwilio am swydd, neu eisiau dysgu am gyfleoedd yn eich ardal leol, ymunwch gyda’n hysbysfwrdd swyddi ar facebook.
Mae cymorth ar gael i unrhyw un sydd angen arweiniad gyda chyflogaeth. Gallwn hefyd gefnogi trwy fynd i’r afael â rhwystrau cymhleth unigolion, boed yn iechyd meddwl a lles, tai neu os nad yw rhywun yn gwybod ble i ddechrau.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- Codi hyder
- Mentora 1:1
- Profiad gwaith
- Paratoi cyfweliadau
- Cyfleoedd gwirfoddoli
- Help i ddatblygu sgiliau
- Help i greu neu ddiweddaru CV
- Creu Cynllun Datblygu Personol
- Cefnogaeth gyda rhwystrau i waith
- Mynediad am ddim i hyfforddiant galwedigaethol.
Cyfeirio
Er mwyn creu cyfeiriad plîs cwblhewch yr holiadur canlynol:
Holiadur Gwaith Gwynedd
Prosiectau Gwaith Gwynedd
Ewch draw i dudalen Facebook ‘Gwaith Gwynedd’ i allu gweld digwyddiadau wythnosol LLWYBR.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy (CaW+) ar gael i bawb yng Ngwynedd sy'n chwilio am waith, neu sydd ar incwm isel ac eisiau gwella ei cyfleoedd gwaith, drwy’r gefnogaeth sydd ar gael o fewn Gwaith Gwynedd (gweler uchod).
Mae cyflogadwyedd yn derm ymbarel am yr holl bethau sy'n cynyddu siawns pobl o gael swydd neu symud ymlaen mewn gyrfa. Mae rhai pobl yn gweld hyn yn anoddach nag eraill.
Mae Gwaith Gwynedd yn cydweithio gyda phartneriaid i helpu'r bobl hyn i symud ar hyd 'Llwybr Cyflogadwyedd'.
Mae'r Llwybr Cyflogadwyedd yn nodi'r camau cymorth y gallai unigolyn eu cymryd i sicrhau cael eu cyflogi. Mae'r Llwybr yn cefnogi pobl sy'n ddi-waith; sydd â rhwystr i gyflogaeth, ac sydd gan botensial i symud i gyflogaeth gynaliadwy neu hunangyflogaeth. Gall gyfranogwyr dderbyn cefnogaeth ar bob cam os oes angen, neu ddechrau eu taith nes ymlaen yn y llwybr.
Cysylltu â ni:
Ffôn: 01286 679211
E-bost: GwaithGwynedd@gwynedd.llyw.cymru