Cefnogi ymgeiswyr anabl

Rydym yn cefnogi egwyddorion cyfleoedd cyfartal ac yn ymdrechu i sicrhau adlewyrchiad teg o’r gymuned ymhlith ein staff. Ein polisi yw penodi’r person gorau i pob swydd wag, beth bynnag fo’i rhyw, oed, hil, lliw, cenedligrwydd neu anabledd.

Rydym wedi ymroi i gynyddu’r nifer o bobl anabl yr ydym yn eu cyflogi.  Gwahoddir ceisiadau gan unigolion anabl a gwneir pob ymdrech i gefnogi a chadw staff sy’n dod yn anabl yn ystod eu cyflogaeth.


Cwblhau’r ffurflen Gais

Os ydych yn dymuno derbyn y ffurflen gais mewn fformat gwahanol megis ‘braille’, print bras neu ar dâp, cysylltwch â’r Gwasanaeth Adnoddau Dynol ar 01286 679543 neu swyddi@gwynedd.llyw.cymru


Sicrhau cyfweliad

Mae’r Cyngor yn gwarantu cyfweliad i bob ymgeisydd anabl os ydynt yn cyrraedd gofynion y swydd. Bydd ymgeiswyr anabl yn cael eu hasesu yn ôl eu gallu.


Mynychu’r cyfweliad

Os byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad, byddwn yn gofyn i chi nodi os oes gennych unrhyw anghenion penodol fel y gallwn sicrhau fod trefniadau addas mewn lle os oes angen – er enghraifft, trefnu cymorth megis dehonglydd arwyddiaith, llefarydd gwefusau, neu drefnu cludiant i chi i’r cyfweliad


Cyfweliadau a phrofion

Byddwch yn cael gwybod os bydd profion, cyflwyniadau neu drafodaethau grŵp yn debygol o fod yn rhan o’r broses dethol. Os ydych angen cymorth gydag unrhyw agwedd o’r broses gyfweld, cysylltwch â’r Adran Adnoddau Dynol ar 01286 679543 neu swyddi@gwynedd.llyw.cymru

Mae cymorth hefyd ar gael drwy gysylltu â'r Ganolfan Waith:

  • Ymgynghorydd Cyflogaeth Anabledd - Ffôn: 01286 768000
  • Cynllun ‘Access to Work’                    - Ffôn: 02920 380 997 
                                                               - Neges destun: 02920 380 995


Cefnogaeth i ymgeiswyr llwyddiannus

Mae pob ymdrech yn cael ei gwneud i drin staff anabl yn unol â’u anghenion, ac os oes angen, bydd addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud i’r gweithle ac i weithdrefnau gwaith.


Cefnogaeth i staff presennol y Cyngor sy’n dod yn anabl

Mae ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau fod staff sy’n dod yn anabl yn gallu aros yn eu swydd.

Rhoddir ystyriaeth deg i unrhyw geisiadau a wneir i newid patrymau gwaith megis lleihau oriau, cytundebau dros dro, gweithio o adref er mwyn hwyluso’r broses o ddychwelyd i’r gwaith neu addasu’r gweithle.

Am ragor o fanylion am unrhyw agwedd o'r wybodaeth ar y dudalen hon, cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar 01286 679543 neu swyddi@gwynedd.llyw.cymru