Gweithio gyda Ieuenctid Gwynedd

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn gweithio gyda pobl ifanc, neu os hoffech waith rhan amser yn cefnogi pobl ifanc yn eich cymuned, mae Gwasanaeth Ieuenctid yma i’ch cefnogi. 

Bydd pob Gweithiwr Ieuenctid newydd, rhan amser neu llawn amser, yn cael eu cefnogi i ennill cymhwyster lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid. 

Fel rhan o Gyngor Gwynedd, gallech hefyd gymryd mantais ar y buddion lawer sydd ar gael i Gyflogai’r Cyngor. Gweithio i Wynedd

 

Swyddi ar gael 

Rydym yn chwilio am Weithwyr Ieuenctid rhan amser i gefnogi clybiau cymunedol. Cliciwch isod i ddysgu mwy am y swyddi sydd ar gael yn eich ardal ar hyn o bryd: 

Gweld swyddi Cyngor Gwynedd