Mae gwasanaethau plant Gwynedd wedi datblygu nifer o wasanaethau arloesol dros y blynyddoedd diwethaf
Model Risg
Mae’r Model Risg yn enghraifft o ddatblygiad hir dymor sydd bellach yn cael ei ddefnyddio mewn sawl awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae’n fframwaith sy’n cefnogi ymarferwyr i ddadansoddi’r trothwy o niwed arwyddocaol.
Cynllun Amddiffyn Plant yn Effeithiol
Mae’r gwasanaeth yn parhau i arloesi ym maes amddiffyn plant gyda’r prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol. Mae hwn yn ddatblygiad sydd yn paratoi’r tir i weddill y rhanbarth er mwyn canfod y gwelliannau allweddol hynny i wneud sy’n arwain at waith amddiffyn plant fwy effeithiol. Mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno gyda ffocws gryf ar gefnogaeth mentor ymarfer a defnydd o alewyrchu ar ymarfer.
Tîm Emrallt
Mae Tîm Emrallt yn wasanaeth cynghori yng Ngwynedd sy'n canolbwyntio ar adnabod ac ymateb yn gynnar i blant a phobl ifanc sy'n arddangos ymddygiadau rhywiol niweidiol a phroblemus. Mae ein gwaith yn cynnwys uwch sgilio gweithwyr, darparu adnoddau ac ymyriadau ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd ac yn hyrwyddo dull aml asiantaethol o ymdrin â'r maes gwaith sensitif hwn.
Dyfyniad gan deulu
"It's extremely beneficial to a family to have as much support as possible and it's been great to have someone come here to not only listen but give my son some feeling of security that someone is looking out for him... he's had someone he can trust to talk to and he feels safe."
Close